
2024 Rhif 1280 (Cy. 216)
Tai, Cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 4 Rhagfyr 2024
Yn dod i rym 20 Rhagfyr 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 160A(3) a (5) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996 ac adran 142(2)(a) a (b) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a pharagraff 1(2) a (4) o Atodlen 2 iddi.

Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2024 a deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2024.
Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014
2 
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiad i reoliad 2
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau Ymaelodaeth 2013”.
Diwygiadau i reoliad 3
4 
Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl paragraff (n);
(b) ar ôl paragraff (o) mewnosoder—“
(p) Dosbarth P – person (P) sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig o’r Rheolau Mewnfudo mewn amgylchiadau pan fo P yn ddioddefwr cefnu ar briodas trawswladol; a
(q) Dosbarth Q – person sydd a chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros ynddi ac, ar ôl gwneud cais i newid amodau, y mae ei amod heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus wedi ei ddileu gan y Swyddfa Gartref yn unol ag adran 3(1)(c)(ii) o Ddeddf Mewnfudo 1971, ac nad yw’n berson o fewn Dosbarth F na Dosbarth J yn y rheoliad hwn.”
Diwygiadau i reoliad 4
5 
Yn rheoliad 4 (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer paragraff (2)(c);
(b) ym mharagraff (2)(d), yn lle “(a)-(c)” rhodder “(a) neu (b)”.
Diwygiadau i reoliad 5
6 
Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer yr “a” ar ôl is-baragraff (o);
(b) ar ôl is-baragraff (p) mewnosoder—“
(q) Dosbarth Q – person (P) sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn rhinwedd Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig o’r Rheolau Mewnfudo mewn amgylchiadau pan fo P yn ddioddefwr cefnu ar briodas trawswladol; ac
(r) Dosbarth R – person sydd a chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros ynddi ac, ar ôl gwneud cais i newid amodau, y mae ei amod heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus wedi ei ddileu gan y Swyddfa Gartref yn unol ag adran 3(1)(c)(ii) o Ddeddf Mewnfudo 1971, ac nad yw’n berson o fewn Dosbarth G na Dosbarth K yn y rheoliad hwn.”
Diwygiadau i reoliad 6
7 
Yn rheoliad 6 (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer paragraff (2)(c);
(b) ym mharagraff (2)(d), yn lle “(a)-(c)” rhodder “(a) neu (b)”.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2024