
2024 Rhif 1247 (Cy. 207)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Unigolion sydd wedi eu Hesemptio o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024
Gwnaed 27 Tachwedd 24
Yn dod i rym 29 Tachwedd 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 60(1), (3) a (5) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 123(2)(b) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Unigolion sydd wedi eu Hesemptio o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Tachwedd 2024.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “bydwraig gofrestredig” (“registered midwife”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y Rhan i’r Bydwragedd o’r Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
 ystyr “ciropodydd” (“chiropodist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 2 o gofrestr yr HCPC ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;
 ystyr “ciropractydd” (“chiropractor”) yw ciropractydd cofrestredig o fewn ystyr y term “registered chiropractor”, fel y’i nodir yn adran 43 o Ddeddf Ciropractyddion 1994, ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Ciropractig Cyffredinol;
 ystyr “cofrestr yr HCPC” (“HCPC register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn 2001 gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a sefydlwyd o dan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwnnw, ac y mae darpariaeth bellach wedi ei gwneud yn ei chylch yng Ngorchymyn y Cyfrin Gyngor Proffesiynau Iechyd (Rhannau o’r Gofrestr a Chofnodion ynddi) 2003;
 ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001;
 ystyr “cydymaith nyrsio cofrestredig” (“registered nursing associate”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y Rhan i’r Cymdeithion Nyrsio o’r Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
 ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Meddygaeth 1983;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Deintyddion 1984;
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Optegwyr 1989;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf 1984 ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
 ystyr “fferyllydd” (“pharmacist”) yw—
(a) mewn perthynas â Phrydain Fawr, person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 1 o’r gofrestr o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa a gynhelir o dan erthygl 19(2) o Orchymyn 2010 ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, a
(b) mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o gemegwyr fferyllol ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhelir yn unol ag Erthyglau 6(a) a 9 o Orchymyn 1976 ac sy’n cael ei reoleiddio gan Gymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon;ystyr “ffisiotherapydd” (“physiotherapist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 9 o gofrestr yr HCPC ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;
 ystyr “Gorchymyn 1976” (“the 1976 Order”) yw Gorchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976;
 ystyr “Gorchymyn 2001” (“the 2001 Order”) yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;
 ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Fferylliaeth 2010;
 ystyr “myfyriwr-fferyllydd” (“student pharmacist”), mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o fyfyrwyr ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhelir yn unol ag Erthyglau 6(c) a 9 o Orchymyn 1976, ac sy’n cael ei reoleiddio gan Gymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon;
 ystyr “myfyriwr-optegydd cyflenwi” (“student dispensing optician”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y cofrestrau o fyfyrwyr a gynhelir o dan adran 8A o Ddeddf 1989 fel person sy’n ymgymryd â hyfforddiant i fod yn optegydd cyflenwi, ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Optegol Cyffredinol;
 ystyr “myfyriwr-optometrydd” (“student optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y cofrestrau o fyfyrwyr a gynhelir o dan adran 8A o Ddeddf 1989 fel person sy’n ymgymryd â hyfforddiant i fod yn optometrydd, ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Optegol Cyffredinol;
 ystyr “nyrs gofrestredig” (“registered nurse”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y Rhan i’r Nyrsys o’r Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
 ystyr “optegydd cyflenwi” (“dispensing optician”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o optegwyr cyflenwi a gynhelir o dan adran 7(b) o Ddeddf 1989 ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Optegol Cyffredinol;
 ystyr “optometrydd” (“optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7(a) o Ddeddf 1989 ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Optegol Cyffredinol;
 ystyr “osteopath” (“osteopath”) yw osteopath cofrestredig o fewn ystyr y term “registered osteopath”, fel y’i nodir yn adran 41 o Ddeddf Osteopathiaid 1993, ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol;
 ystyr “podiatrydd” (“podiatrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 2 o gofrestr yr HCPC ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;
 ystyr “proffesiynolyn gofal deintyddol” (“dental care professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o broffesiynolion gofal deintyddol a sefydlwyd ac a gynhelir o dan adran 36B o Ddeddf 1984 ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol;
 ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011;
 ystyr “sefydliad gofal iechyd annibynnol a reoleiddir” (“regulated independent healthcare establishment”) yw—
(c) clinig annibynnol fel y diffinnir “independent clinic” gan adran 2(4) o Ddeddf 2000 ac fel y’i rhagnodir gan reoliad 4 o Reoliadau 2011;
(d) ysbyty annibynnol fel y diffinnir “independent hospital” gan adran 2(2) a (3) o Ddeddf 2000 ac fel y’i rhagnodir gan reoliad 3 o Reoliadau 2011;
(e) practis deintyddol preifat fel y’i diffinnir gan reoliad 3(1) o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017;
 ystyr “technegydd fferyllfa” (“pharmacy technician”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 2 o’r gofrestr o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa a sefydlwyd ac a gynhelir o dan erthygl 19(2) o Orchymyn 2010 ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol;
 mae i “triniaeth arbennig” (“special procedure”) yr ystyr a roddir yn adran 57 o’r Ddeddf;
 mae i “trwydded triniaeth arbennig” (“special procedure licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59 o’r Ddeddf;
 ystyr “ymarferydd meddygol didrwydded” (“unlicensed medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ymarferwyr meddygol fel y’i diffinnir gan adran 2(2) o Ddeddf 1983, nad yw’n dal trwydded i ymarfer o dan adran 29A(1) o’r Ddeddf honno ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol;
 ystyr “ymarferydd meddygol trwyddedig” (“licensed medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ymarferwyr meddygol fel y’i diffinnir gan adran 2(2) o Ddeddf 1983, sy’n dal trwydded i ymarfer o dan adran 29A(1) o’r Ddeddf honno ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Triniaethau arbennig penodedig at ddibenion adran 60(1) o’r Ddeddf ar gyfer aelodau o broffesiynau penodol
3 
Nid yw unigolyn sy’n aelod o broffesiwn a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael ei drwyddedu, os yw’r unigolyn yn dymuno rhoi pob triniaeth arbennig a bennir yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno.
Triniaethau arbennig penodedig at ddibenion adran 60(1) o’r Ddeddf ar gyfer aelodau o broffesiynau penodol oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni
4 

(1) Nid yw unigolyn sy’n aelod o broffesiwn a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael ei drwyddedu mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig a bennir yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno, oni bai bod paragraff (3) yn gymwys.
(2) Nid yw unigolyn sy’n aelod o broffesiwn a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 3 wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael ei drwyddedu mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig a bennir yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno, oni bai bod paragraff (3) yn gymwys.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan fo unigolyn yn rhoi’r driniaeth arbennig mewn sefydliad gofal iechyd annibynnol a reoleiddir, a
(b) pan na fo unigolyn yn ddarostyngedig i unrhyw amodau, unrhyw gyfyngiadau nac unrhyw sancsiynau ar ei gofrestriad proffesiynol, mewn perthynas â’i addasrwydd i ymarfer.
Esemptiad ar gyfer aelodau o broffesiynau penodedig at ddibenion adran 60(3) o’r Ddeddf
5 
Mae unigolyn—
(a) sy’n aelod o broffesiwn a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 4,
(b) sy’n rhoi triniaeth arbennig a restrir yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno mewn sefydliad gofal iechyd annibynnol a reoleiddir, ac
(c) nad yw’n ddarostyngedig i unrhyw amodau, unrhyw gyfyngiadau nac unrhyw sancsiynau ar ei gofrestriad proffesiynol, mewn perthynas â’i addasrwydd i ymarfer,i’w drin fel pe bai wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael ei drwyddedu i roi’r driniaeth arbennig honno.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2024
Atodlen 1
Triniaethau arbennig penodedig ar gyfer proffesiynau penodol at ddibenion adran 60(1) o’r Ddeddf
Rheoliad 3


Colofn 1 Colofn 2
Y Proffesiwn Y Driniaeth arbennig
FferyllyddMyfyriwr-fferyllyddMyfyriwr-optegydd cyflenwiMyfyriwr-optometryddOptegydd cyflenwiOptometryddTechnegydd fferyllfaYmarferydd meddygol didrwydded AciwbigoElectrolysisTatŵioTyllu’r Corff
Atodlen 2
Triniaethau arbennig penodedig ar gyfer proffesiynau penodol at ddibenion adran 60(1) o’r Ddeddf oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni
Rheoliad 4


Colofn 1 Colofn 2
Y Proffesiwn Y Driniaeth arbennig
Bydwraig gofrestredigCydymaith nyrsio cofrestredigDeintyddNyrs gofrestredigProffesiynolyn gofal deintyddolYmarferydd meddygol trwyddedig AciwbigoElectrolysisTatŵioTyllu’r Corff
Atodlen 3
Triniaethau arbennig penodedig ar gyfer proffesiynau penodol at ddibenion adran 60(1) o’r Ddeddf oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni
Rheoliad 4


Colofn 1 Colofn 2
Y Proffesiwn Y Driniaeth arbennig
CiropractyddOsteopath Aciwbigo
Atodlen 4
Esemptiad ar gyfer aelodau o broffesiynau penodedig at ddibenion adran 60(3) o’r Ddeddf
Rheoliad 5


Colofn 1 Colofn 2
Y Proffesiwn Y Driniaeth arbennig
CiropodyddFfisiotherapyddPodiatrydd Aciwbigo