
2024 Rhif 1246 (Cy. 206)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Tyllu’r Corff (Triniaethau Arbennig) (Cymru) 2024
Gwnaed 27 Tachwedd  2024
Yn dod i rym 29 Tachwedd  2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 94(1) a 123(1)(b) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 123(2)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Tyllu’r Corff (Triniaethau Arbennig) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Tachwedd 2024.
Gwrthrychau rhagnodedig at ddibenion Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017
2 
Mae unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith wedi ei ragnodi at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o “tyllu’r corff” yn adran 94(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ond dim ond i’r graddau y mae’r diffiniad hwnnw yn gymwys at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno (triniaethau arbennig).
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd  2024