
2024 Rhif 1196 (Cy. 196)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed  20 Tachwedd 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 22 Tachwedd 2024 
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) a (4)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 15, 80, 104 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw rheoliad 8 i rym ar 1 Ionawr 2025.
(4) Daw pob rheoliad arall i rym ar 1 Ebrill 2025.
Diwygio Rhan 1 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rhan 1 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “clwstwr” (“cluster”) yw grŵp o ddarparwyr gwasanaethau lleol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal sydd wedi cytuno i gydweithredu i gyflenwi gwasanaethau meddygol sylfaenol ar draws ardal ddaearyddol benodedig;”;“
 ystyr “cyfarpar rhestredig offthalmig” (“ophthalmic listed appliance”) yw cyfarpar ar y rhestr o baratoadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru y caniateir ei archebu gan optometrydd cymhwysol ar gyfer cleifion gwasanaethau offthalmig sylfaenol y gwasanaeth iechyd gwladol;”;“
 ystyr “Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig” (“Electronic Prescription Service”) yw’r gwasanaeth sy’n dwyn yr enw hwnnw a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru;”;“
 mae i “Gwasanaethau Offthalmig Sylfaenol” (“Primary Ophthalmic Services”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023;”;“
 ystyr “meddyginiaeth restredig offthalmig” (“ophthalmic listed medicine”) yw cyffur sydd ar y rhestr o baratoadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru y caniateir ei archebu gan optometrydd cymhwysol ar gyfer cleifion gwasanaethau offthalmig sylfaenol y gwasanaeth iechyd gwladol;”;“
 ystyr “optometrydd” (“optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n optometrydd yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989 (cofrestr optegwyr);”;“
 ystyr “optometrydd cymhwysol” (“qualifying optometrist”) yw person sy’n optometrydd sydd wedi ei gynnwys ar Restr Gyfunol Offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol sy’n darparu neu’n helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yng Nghymru;”;“
 ystyr “Rhestr Gyfunol Offthalmig” (“Ophthalmic Combined List”) yw’r rhestr y mae’n ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ei llunio yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023;”.
(3) Yn y diffiniad o “rhagnodydd”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hepgorer “fferyllydd-ragnodydd annibynnol,”.
Diwygio Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020
3 

(1) Mae Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 2, paragraff 4 ar ôl “Iwerddon” mewnosoder “a phersonau sy’n cyflwyno archeb am gyfarpar rhestredig neu feddyginiaeth restredig sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol yn unol â’i swyddogaethau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru”.
(3) Yn Rhan 2, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—“
Gweinyddu cyfarpar rhestredig a meddyginiaethau rhestredig sydd wedi eu harchebu gan optometryddion cymhwysol
5A. 

(1) Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon, pan fo person yn cyflwyno archeb am gyfarpar rhestredig neu feddyginiaeth restredig sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol, rhaid i fferyllydd GIG, yn brydlon ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan yr optometrydd cymhwysol, ddarparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir felly, a’r cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei fusnes.
(2) Os yw’r person sy’n cyflwyno’r archeb sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol yn gofyn i’r fferyllydd GIG wneud hynny—
(a) rhaid iʼr fferyllydd GIG roi amcangyfrif oʼr amser pan fydd y cyffuriau neuʼr cyfarpar yn barod, a
(b) os na fyddant yn barod erbyn hynny, rhaid iʼr fferyllydd GIG roi amcangyfrif diwygiedig oʼr amser pan fyddant yn barod (ac ati).
(3) Pan fo archeb sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol am gyfarpar rhestredig neu feddyginiaeth restredig yn cael ei chyflwyno i fferyllydd GIG, ni chaiff y fferyllydd GIG ddarparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir felly ond—
(a) os yw’r archeb wedi ei llofnodi a’i harnodi’n briodol gan yr optometrydd cymhwysol fel y disgrifir ym mharagraff (1), a
(b) yn unol â’r archeb ac unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan yr optometrydd cymhwysol yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985 a’r darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon.
(4) Rhaid i gyffuriau neu gyfarpar a archebir felly gael eu darparu naill ai gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth fferyllydd cofrestredig.
(5) Pan fo’r fferyllydd y cyfeirir ato ym mharagraff (4) wedi ei gyflogi gan fferyllydd GIG, ni chaniateir i’r fferyllydd cofrestredig fod yn rhywun—
(a) sydd wedi ei anghymhwyso rhag ei gynnwys mewn rhestr berthnasol, neu
(b) sydd wedi ei atal dros dro o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
(6) Pan fo unrhyw gyffur y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn cael ei archebu gan optometrydd cymhwysol ac ar gael i’w ddarparu gan fferyllydd GIG mewn pecyn mewn swm gwahanol i’r swm a archebwyd felly, a’r cyffur hwnnw—
(a) yn ddi-haint,
(b) yn eferw neuʼn hygrosgopig,
(c) yn gymysgedd hylifol iʼw ychwanegu at ddŵr bath,
(d) yn gymysgedd col-tar,
(e) yn gymysgedd gludiog, neu
(f) wedi ei becynnu ar adeg ei weithgynhyrchu mewn pecyn calendr neu gynhwysydd arbennig,
rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur yn y pecyn sydd oʼr swm agosaf iʼr swm a archebwyd felly.
(7) Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysydd arbennig” yw unrhyw gynhwysydd sydd âʼr modd o roiʼr cynnwys yn rhan integrol ohono, neu nad ywʼn ymarferol ei ddefnyddio i weinyddu swm cywir oʼr cynnwys.
(8) Rhaid i fferyllydd GIG ddarparu unrhyw gyffur y mae’n ofynnol iddo ei ddarparu o dan y paragraff hwn mewn cynhwysydd addas.
(9) Caiff fferyllydd GIG wrthod darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebwyd—
(a) pan foʼr fferyllydd GIG yn credu, yn rhesymol, nad yw’n archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar yr archeb sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol (er enghraifft oherwydd ei fod yn credu, yn rhesymol, fod y ffurflen wedi ei dwyn neu ei ffugio),
(b) pan foʼn ymddangos iʼr fferyllydd GIG fod camgymeriad ar yr archeb sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol (gan gynnwys camgymeriad clinigol) neu y byddai darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar, o dan yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y fferyllydd GIG,
(c) pan foʼr fferyllydd GIG neu bersonau eraill yn y fangre yn dioddef trais neuʼn cael eu bygwth â thrais gan y person syʼn cyflwynoʼr archeb sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol, neu gan unrhyw berson sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, neu
(d) pan foʼr person syʼn cyflwynoʼr archeb sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol, neu unrhyw berson arall sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, yn cyflawni neuʼn bygwth cyflawni trosedd.
(10) Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyfarpar neu gyffur a archebir ar archeb sydd wedi ei llofnodi gan optometrydd cymhwysol pan fo’r archeb ar gyfer cyffur neu gyfarpar nad oedd gan yr optometrydd cymhwysol hawl i’w archebu, ond os yw’r fferyllydd GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo roi cyngor priodol i’r claf neu’r person sy’n gofyn am y cyffur neu’r cyfarpar ar ran y claf, yn ôl yr angen, ynghylch dychwelyd at yr optometrydd cymhwysol i adolygu triniaeth y claf.”
(4) Yn Rhan 2, paragraff 9(2), hepgorer “uniongyrchol”.
(5) Yn Rhan 2, paragraff 9, ar ôl is-baragraff (8) mewnosoder—“
(8A) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (8B) i (8E) a heb leihau effaith is-baragraffau (10) ac (11), at ddibenion is-baragraff (1)(b), darperir cyffur yn unol â’r archeb ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (yn ogystal â phan fo’r ddarpariaeth yn unol â’r archeb yn union)—
(a) os yw swm gwahanol yn cael ei ddarparu i’r hyn a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy i ganiatáu ar gyfer darparu’r cyffur yn neunydd pecynnu allanol gwreiddiol y gweithgynhyrchwr, a
(b) os yw’r ddarpariaeth fel arall yn unol â’r archeb.
(8B) Yn achos archeb am feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, nid yw is-baragraff (8A) ond yn gymwys os yw is-baragraff (8) yn gymwys neu os yw un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—
(a) mae’r ddarpariaeth yn unol â rheoliad 217B(1) i (3) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (gweinyddu pecyn gwreiddiol), ac yn unol â hynny, mae rheoliad 217B(1) i (3) o’r Rheoliadau hynny wedi ei gymhwyso’n benodol i gyflenwadau o’r fath, neu
(b) rhaid i’r feddyginiaeth gael ei darparu yn neunydd pecynnu allanol gwreiddiol y gweithgynhyrchwr i gydymffurfio â rheoliad 217C o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (gweinyddu pecyn gwreiddiol: cynhyrchion meddyginiaethol sy’n cynnwys sylwedd perthnasol).
(8C) Yn achos archeb am gyffur nad yw’n feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, nid yw is-baragraff (8A) ond yn gymwys os yw is-baragraff (8) yn gymwys neu os yw’r ddarpariaeth o swm gwahanol i’r hyn a archebwyd ar y presgripsiwn o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a) nid yw’r swm gwahanol yn fwy na 10% yn uwch neu’n fwy na 10% yn llai na’r swm a archebwyd; a
(b) nid yw’r fferyllydd cofrestredig sy’n gwneud y ddarpariaeth neu’n goruchwylio’r ddarpariaeth yn uniongyrchol yn ystyried, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod darparu swm gwahanol i’r hyn a archebwyd yn gallu golygu nad yw’r claf yn dilyn y drefn feddyginiaethol a fwriadwyd gan y rhagnodydd, neu na all ddilyn y drefn feddyginiaethol honno.
(8D) Pan gaiff y fferyllydd GIG, yn unol ag is-baragraff (8A) ac is-baragraff (8B)(a) neu (8C)(a) a (b), ddarparu swm gwahanol o gyffur i’r hyn a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, rhaid i’r fferyllydd GIG ystyried, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, a yw’n rhesymol ac yn briodol gwneud hynny, gan roi sylw i’r buddiannau i gleifion o gael cyffuriau yn neunydd pecynnu allanol gwreiddiol y gweithgynhyrchwr.
(8E) Nid yw is-baragraffau (8B)(a) ac (8C)(a) a (b) yn gymwys i ddarparu unrhyw gyffur sydd—
(a) am y tro wedi ei bennu yn Atodlenni 2 i 4 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 (sy’n ymwneud â chyffuriau rheoledig a eithriwyd o rai darpariaethau o dan y Rheoliadau), neu
(b) yn gynnyrch meddyginiaethol arbennig at ddibenion rheoliad 167 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (cyflenwi i ddiwallu anghenion arbennig cleifion).”
(6) Yn Rhan 2, yn lle paragraff 16 rhodder—“
16. 
Rhaid i fferyllydd GIG, i’r graddau y mae paragraffau 17 a 18 yn ei gwneud yn ofynnol ac yn y modd a nodir yn y paragraffau hynny ac, yn gyffredinol, pan fo’n briodol gwneud hynny ym marn y fferyllydd GIG, hyrwyddo negeseuon iechyd y cyhoedd i’r cyhoedd.”
(7) Yn Rhan 2, yn lle paragraff 17(1)(b) rhodder—“
(b) ei bod yn ymddangos i’r fferyllydd GIG fod y person yn dioddef o broblem iechyd niweidiol neu mewn perygl o ddatblygu problem iechyd niweidiol,”.
(8) Yn Rhan 2, yn lle paragraff 17(3) rhodder—“
(3) Rhaid i fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw gyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (yn benodol ymyriadau o arwyddocâd clinigol).”
(9) Yn Rhan 2, paragraff 18(a), yn lle “chwe” rhodder “bedair”.
(10) Yn Rhan 2, yn lle paragraff 18(b) rhodder—“
(b) pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol (neu fyrddau iechyd yn achos ymgyrch genedlaethol) yn gofyn iddo wneud hynny, gymryd rhan yn y gwerthusiad o ymgyrch hybu iechyd y mae’n cymryd rhan ynddi.”
(11) Yn Rhan 2, yn lle paragraff 20(4) rhodder—“
(4) Rhaid i’r fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o’r cyngor a roddir yn unol â’r paragraff hwn, a rhaid i’r cofnod hwnnw fod mewn ffurf sy’n hwyluso—
(a) archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y fferyllydd GIG, a
(b) gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd y cyngor iddo.”
(12) Yn Rhan 2, yn lle paragraff 22(2) rhodder—“
(2) Rhaid i fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw gyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriad a wneir (yn benodol ymyriadau o arwyddocâd clinigol) o dan is-baragraff (1).”
(13) Yn Rhan 3, paragraff 23(5)—
(a) ar ôl “neu’r amseroedd” mewnosoder “neu’r oriau agor atodol”, a
(b) ar y diwedd, ar ôl “newid” mewnosoder “12 o wythnosau cyn i’r newid ddigwydd”.
(14) Yn Rhan 3, paragraff 23(6)—
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl “(5)” mewnosoder “neu fod is-baragraff (6)(c) yn gymwys”;
(b) yn y geiriau ar y diwedd, hepgorer “fel y’u nodir yn y datganiad hwnnw neu’r cais hwnnw,”, ac
(c) ar y diwedd, ar ôl “neu’r cais hwnnw” mewnosoder “heb ganiatâd ysgrifenedig y Bwrdd Iechyd Lleol”.
(15) Yn Rhan 3, ar ôl paragraff 23(6) mewnosoder—“
(6A) Nid yw paragraff 23(6)(b) yn gymwys pan fo’r newidiadau yn gyfystyr â chynnwys seibiant gorffwys nad yw’n hwy nag un awr (neu newid i seibiant gorffwys o’r fath) ac—
(a) ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn os yw’r seibiant gorffwys yn dechrau o leiaf 3 awr ar ôl dechrau oriau agor y fferyllfa ac yn gorffen o leiaf 3 awr cyn diwedd oriau agor y fferyllfa,
(b) ar ddydd Sul, ac
nid yw cynnwys y seibiant gorffwys na newid y seibiant gorffwys yn newid cyfanswm nifer oriau craidd y fferyllydd GIG a nodir yn is-baragraff (1) ar unrhyw ddiwrnod penodol, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau 25 a 26, ac yn unol â’r gweithdrefnau a nodir ym mharagraffau 25 a 26.”
(16) Yn Rhan 3, paragraff 23, ar ôl is-baragraff (6A) mewnosoder—“
(6B) Pan fo fferyllydd GIG wedi cyflwyno datganiad o dan is-baragraff (2) mewn cysylltiad ag unrhyw fangre, ac effaith hynny fyddai cynyddu nifer yr oriau agor atodol y mae’r fangre ar agor heb newid y cyfnodau y mae’r fangre eisoes ar agor, nid yw’r gofynion a nodir ym mharagraff (6) yn gymwys.”
(17) Yn Rhan 3, paragraff 23(8)(a), ar ôl “ymarferol” mewnosoder “yn y modd cymeradwy a ragnodir gan y Bwrdd Iechyd Lleol,”.
(18) Yn Rhan 4, yn lle paragraff 28(3)(a)(iv) rhodder—“
(iv) gofyniad y dylai’r fferyllydd GIG gynnwys defnyddwyr y fferyllfa mewn gweithgareddau i asesu eu boddhad â’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y fferyllfa, gan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadau’r asesiadau a gynhelir ac unrhyw gamau priodol y mae’r fferyllydd GIG yn bwriadu eu cymryd o ganlyniad,”.
(19) Yn Rhan 4, yn lle paragraff 28(3)(b) rhodder—“
(b) cydweithredu â phroffesiynolion gofal iechyd eraill drwy glystyrau er mwyn nodi a gwella iechyd a llesiant y boblogaeth a wasanaethir gan y fferyllfa,”.
(20) Yn Rhan 4, ar ôl paragraff 28(3)(c)(iii), mewnosoder—“
(iiia) trefniadau ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau diogelwch cleifion i’r system genedlaethol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru,”.
(21) Yn Rhan 4, yn lle paragraff 28(3)(c)(vii) rhodder—“
(vii) arweinydd llywodraethu clinigol ar gyfer pob fferyllfa, a benodir felly gan y fferyllydd GIG (neu’r fferyllydd GIG ei hunan), sydd naill ai’n gweithio’n rheolaidd yn y fferyllfa neu’n darparu rôl weithredol ac sy’n wybodus ynglŷn â mabwysiadu’n lleol y gweithdrefnau fferyllfa gan staff a gyflogir yn y fferyllfa neu sydd wedi eu cymryd ymlaen yno,”.
(22) Yn Rhan 4, paragraff 28(3)(c)(viii), yn lle “amddiffyn plant” rhodder “diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso”.
4 
Mae’r Atodlen (diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth) yn cael effaith.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2024
YR ATODLEN
Diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth
Rheoliad 4
1 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2 
Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “meddyginiaeth restredig offthalmig” (“ophthalmic listed medicine”) yw eitem ar y rhestr o baratoadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru y caniateir ei harchebu gan optometrydd cymhwysol ar gyfer cleifion gwasanaethau offthalmig sylfaenol y gwasanaeth iechyd gwladol;”;“
 ystyr “optometrydd cymhwysol” (“qualifying optometrist”) yw person sy’n optometrydd sydd wedi ei gynnwys ar Restr Gyfunol Offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol sy’n darparu neu’n helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yng Nghymru;”;“
 ystyr “teclyn rhestredig offthalmig” (“ophthalmic listed appliance”) yw teclyn ar y rhestr o baratoadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru y caniateir ei archebu gan optometrydd cymhwysol ar gyfer cleifion gwasanaethau offthalmig sylfaenol y gwasanaeth iechyd gwladol;”.
3 
Yn Rhan 2 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig), ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—“
Dyroddi archebion a lofnodwyd gan optometrydd cymhwysol
4A. 

(1) Bydd optometrydd cymhwysol yn archebu meddyginiaethau rhestredig offthalmig neu declynnau rhestredig offthalmig fel sy’n ofynnol i drin unrhyw glaf y mae’n darparu gwasanaethau iddo o dan y contract drwy ddyroddi i’r claf archeb a lofnodwyd gan optometrydd cymhwysol.
(2) Rhaid i bob archeb—
(a) bod wedi ei llofnodi gan yr optometrydd cymhwysol,
(b) bod wedi ei dyroddi ar wahân i bob claf y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau iddo o dan y contract, ac
(c) bod yn destun cais amdani ar ffurflen a gyflenwir at ddibenion y paragraff hwn gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
Rhagnodi gormodol
4B. 
Ni chaiff optometrydd cymhwysol archebu cyffuriau na theclynnau y mae eu cost neu swm, mewn perthynas ag unrhyw glaf, oherwydd cymeriad y cyffur neu’r teclyn hwnnw, yn fwy na’r hyn a oedd yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer trin y claf hwnnw’n briodol.”