
2024 Rhif 1121 (Cy. 187)
Addysg, Cymru
Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024
Gwnaed 6 Tachwedd 2024
Yn dod i rym 11 Tachwedd 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 25(2), 25(3), 25(5), 25(8), 27(6), 27(7)(b)(i), 27(7)(b)(ii), 32(2)(b), 34, 41(2), 88(3), 105(4) a 143(2)(a) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad, yn unol ag adran 143(3), (4)(b) ac (c) o’r Ddeddf honno.
RHAN 1 ENWI, DOD I RYM A DEHONGLI
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Tachwedd 2024.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “addysg drydyddol” (“tertiary education”) yw addysg uwch, addysg bellach neu hyfforddiant;
 ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;
 mae “asesiad” (“assessment”) yn cynnwys arholiad a phrawf;
 ystyr “categori amgen addysg uwch” (“higher education alternative category”) yw’r categori cofrestru a nodir yn rheoliad 3(b);
 ystyr “categori craidd addysg uwch” (“higher education core category”) yw’r categori cofrestru a nodir yn rheoliad 3(a);
 ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd gan adran 1 o’r Ddeddf;
 mae “corff llywodraethu” (“governing body”) i’w ddehongli fel a ganlyn—
(a) mewn perthynas â darparwr hyfforddiant na fyddai, oni bai am y diffiniad o “sefydliad” yn y rheoliad hwn, yn cael ei ystyried yn sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
(b) mewn perthynas ag ysgol, ei ystyr yw perchennog yr ysgol o fewn yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;
(c) mewn perthynas â darparwr a ddynodir o dan adran 83 (dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill) o’r Ddeddf, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
(d) mewn perthynas ag unrhyw sefydliad arall, mae iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 90(2) o’r Ddeddf honno;
 ystyr “darparwr addysg drydyddol yng Nghymru” (“tertiary education provider in Wales”) yw sefydliad sy’n darparu addysg drydyddol, gan gynnwys addysg drydyddol a ddarperir ar ei ran, y cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
 ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr; ac mae cyfeiriadau at “cofrestru” (“registration”) i’w darllen yn unol â hynny;
 ystyr “darparwr hyfforddiant” (“training provider”) yw person sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005);
 ystyr “dyfarniad a addysgir” (“taught award”) yw unrhyw radd gan gynnwys gradd sylfaen, diploma, tystysgrif neu ddyfarniad neu anrhydedd academaidd arall a roddir i bersonau sy’n cwblhau cwrs astudio priodol ac sy’n bodloni asesiad priodol;
 ystyr “dyfarniad ymchwil” (“research award”) yw unrhyw radd, diploma, tystysgrif neu ddyfarniad neu anrhydedd academaidd arall a roddir i bersonau sy’n cwblhau rhaglen briodol o ymchwil dan oruchwyliaeth ac sy’n bodloni asesiad priodol;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;
 ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Comisiwn o dan adran 25(1) o’r Ddeddf;
 mae “sefydliad” (“institution”) yn cynnwys unrhyw ddarparwr hyfforddiant (pa un a fyddai’r darparwr hyfforddiant fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad ai peidio);
 ystyr “trefniadau breinio” (“franchise arrangements”) yw trefniadau rhwng darparwr cofrestredig a darparwr addysg arall y mae’r darparwr cofrestredig yn darparu addysg uwch i fyfyriwr odanynt ar ran y darparwr arall, neu y mae’n awdurdodi’r darparwr arall i ddarparu addysg uwch i fyfyriwr odanynt ar ei ran;
 ystyr “trefniadau dilysu” (“validation arrangements”) yw trefniadau rhwng y darparwr cofrestredig a darparwr addysg arall y mae’r darparwr cofrestredig yn dyfarnu cymhwyster odanynt i fyfyriwr yn y darparwr arall neu’n awdurdodi’r darparwr arall i ddyfarnu cymhwyster odanynt ar ei ran.
RHAN 2 CATEGORÏAU COFRESTRU
Categorïau cofrestru
3 
At ddibenion adran 25(2) o’r Ddeddf, rhaid i’r Comisiwn wneud darpariaeth yn y gofrestr ar gyfer y categorïau cofrestru a ganlyn sy’n ymwneud â darparu addysg uwch—
(a) categori craidd addysg uwch, a
(b) categori amgen addysg uwch.
Cofrestru mewn mwy nag un categori
4 
Ni chaiff y Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol mewn mwy nag un categori o’r gofrestr ar yr un pryd.
Y categori terfyn ffioedd
5 
Y categori terfyn ffioedd at ddibenion adran 32(2)(b) o’r Ddeddf yw’r categori craidd addysg uwch.
RHAN 3 CYMHWYSTRA I GAEL CYLLID
Cymorth ariannol ar gyfer addysg uwch
6 
Mae darparwr cofrestredig sydd wedi ei gofrestru yn y categori craidd addysg uwch yn ddarparwr penodedig at ddibenion adran 88(3) o’r Ddeddf.
Cymorth ariannol ar gyfer ymchwil neu arloesi
7 
Mae darparwr cofrestredig sydd wedi ei gofrestru yn y categori craidd addysg uwch yn ddarparwr penodedig at ddibenion adran 105(4) o’r Ddeddf.
RHAN 4 AMODAU COFRESTRU
Amodau cofrestru cychwynnol pellach ar gyfer y categori craidd addysg uwch
8 
Mae’n amod cofrestru cychwynnol yn y categori craidd addysg uwch fod y Comisiwn wedi ei fodloni—
(a) bod y darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais yn elusen, a
(b) o ran yr wybodaeth y mae’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais yn ei darparu i ddarpar fyfyrwyr ynghylch y darparwr, ei gyrsiau, a thelerau ac amodau ei gontractau â myfyrwyr.
Amodau cofrestru cychwynnol pellach ar gyfer y categori amgen addysg uwch
9 
Mae’n amod cofrestru cychwynnol yn y categori amgen addysg uwch bod y Comisiwn wedi ei fodloni o ran yr wybodaeth y mae’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais yn ei darparu i ddarpar fyfyrwyr ynghylch y darparwr, ei gyrsiau, a thelerau ac amodau ei gontractau â myfyrwyr.
Amodau cofrestru parhaus mandadol pellach ar gyfer y categori craidd addysg uwch
10 
Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru yn y categori craidd addysg uwch yn cynnwys—
(a) amod sy’n ymwneud â statws parhaus y darparwr fel elusen,
(b) amod sy’n ymwneud â’r wybodaeth a ddarperir i ddarpar fyfyrwyr am y darparwr, ei gyrsiau, a thelerau ac amodau ei gontractau â myfyrwyr, ac
(c) amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr hysbysu’r Comisiwn am unrhyw newid y mae’n dod yn ymwybodol ohono sy’n effeithio ar statws y darparwr fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru.
Amodau cofrestru parhaus mandadol pellach ar gyfer y categori amgen addysg uwch
11 
Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru yn y categori amgen addysg uwch yn cynnwys—
(a) amod sy’n ymwneud â’r wybodaeth a ddarperir i ddarpar fyfyrwyr ynghylch y darparwr, ei gyrsiau, a thelerau ac amodau ei gontractau â myfyrwyr, a
(b) amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr hysbysu’r Comisiwn am unrhyw newid y mae’n dod yn ymwybodol ohono sy’n effeithio ar statws y darparwr fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru.
RHAN 5 YR WYBODAETH SYDD I’W CHYNNWYS YN Y GOFRESTR
Yr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr
12 
At ddibenion adran 25(8) o’r Ddeddf, rhaid i gofnod darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) enw’r darparwr, gan gynnwys unrhyw enwau masnachu neu unrhyw enwau a roddwyd drwy neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw Siarter Frenhinol,
(b) pan fo enw’r darparwr yn cynnwys y gair “prifysgol”, pa un a gafodd y defnydd o’r enw hwnnw—
(i) ei awdurdodi drwy Siarter Frenhinol, ac os felly, pryd,
(ii) cydsyniad y Cyfrin Gyngor o dan adran 77(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ac os felly, pryd,
(iii) ei gymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor at ddibenion adran 39(1)(b) neu (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac os felly, pryd, neu
(iv) ei awdurdodi drwy neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, ac os felly, pryd,
(c) cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y gellir eu defnyddio i gysylltu â’r darparwr,
(d) cyfeiriad prif fan busnes y darparwr, neu gyfeiriad sy’n addas fel arall ar gyfer cyflwyno dogfennau i’r darparwr,
(e) cyfeiriad y brif wefan a gynhelir gan, neu ar ran, y darparwr,
(f) y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr,
(g) y categori y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddo a’r dyddiad y cafodd y darparwr ei gofrestru yn y categori hwnnw,
(h) a yw amodau cofrestru parhaus y darparwr yn cynnwys amod terfyn ffioedd ac, os felly, fanylion sut i gael gafael ar ddatganiad terfyn ffioedd y darparwr fel y’i cymeradwywyd gan y Comisiwn o dan adran 47 o’r Ddeddf,
(i) a yw’r darparwr yn elusen ac, os felly—
(i) ei rif cofrestru elusen, neu
(ii) os nad yw’r darparwr wedi ei gofrestru â rheoleiddiwr elusennau, y rheswm pam nad yw’n ofynnol iddo gofrestru â rheoleiddiwr elusennau,
(j) a yw’r darparwr yn gwmni, a’i rif cofrestru cwmni (pan fo’n gymwys),
(k) pa un a gafodd y darparwr ei awdurdodi i roi dyfarniadau a addysgir neu ddyfarniadau ymchwil neu’r ddau ac, os felly, pryd,—
(i) drwy Siarter Frenhinol,
(ii) drwy orchymyn gan y Cyfrin Gyngor o dan adran 76(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, neu
(iii) drwy neu o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,
(l) os yw’r darparwr wedi ei awdurdodi i roi dyfarniadau a addysgir neu ddyfarniadau ymchwil neu’r ddau gan awdurdodiad y cyfeirir ato ym mharagraff (k) uchod, disgrifiad o’r dyfarniadau a addysgir neu’r dyfarniadau ymchwil y mae wedi ei awdurdodi i’w rhoi,
(m) a yw’r darparwr wedi ymrwymo i drefniadau dilysu, ac
(n) a yw’r darparwr wedi ymrwymo i drefniadau breinio.
RHAN 6 DADGOFRESTRU
Tynnu o’r categori craidd addysg uwch
13 
Rhaid i’r Comisiwn dynnu darparwr cofrestredig o’r categori craidd addysg uwch os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni nad elusen mo’r darparwr cofrestredig.
Vikki Howells
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch,
o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Tachwedd 2024