
2024 Rhif 1119 (Cy. 186)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024
Gwnaed 6 Tachwedd 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Tachwedd 2024
Yn dod i rym 29 Tachwedd 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1), 123 a 124 o Ddeddf Addysg 2002, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 126 o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
Enwi, dod i rym a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 29 Tachwedd 2024.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
Y Ddogfen
2 

(1) Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2024 at ddibenion penderfynu—
(a) y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
(b) amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
(2) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “y Ddogfen” yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru;
(b) mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Rhif 2) (Cymru) 2023 wedi ei ddirymu.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Tachwedd 2024