
2024 Rhif 1065 (Cy. 178)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024
Gwnaed am 9.18 a.m. ar 25 Hydref  2024
Gosodwyd gerbron Senedd  Cymru am 3.45 p.m. ar 25 Hydref 2024
Yn dod i rym 15 Tachwedd 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 46(2), 203(9) a (10) a 204(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Tachwedd 2024.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso) mewnosoder—“
Interpretation
1A. 
In these Regulations, “general medical services contract” means a general medical services contract under section 42 of the National Health Service (Wales) Act 2006 (general medical services contracts: introductory).”
(3) Yn Atodlen 2 (cyffuriau neu feddyginiaethau sydd i’w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig)—
(a) Yn y tabl, yng ngholofn 2 (claf), yn y cofnod ar gyfer “GnRH analogue”, ym mharagraff (2), yn lle “to whom the general medical practitioner is providing treatment under the contract” rhodder “who is receiving treatment under a general medical services contract”.
(b) Ar ôl y tabl, yn y ddarpariaeth ddehongli, hepgorer y diffiniad o “general medical practitioner”.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 9.18 a.m. ar 25 Hydref  2024