
2024 Rhif 1045 (Cy. 173)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2024
Gwnaed 16 Hydref 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 18 Hydref 2024
Yn dod i rym 23 Ionawr 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(f), 17(2), 26(1)(a), (2)(e) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn. Roedd hyn yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 28 Ionawr 2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Ionawr 2025.
Diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “darpariaeth benodedig o’r Rheoliad” (“specified provision of the Regulation”) yw—
(a) Erthygl 3 (gofynion cyffredinol sy’n ymwneud â phob honiad);
(b) Erthygl 4(3) (cyfyngiadau ar honiadau y caniateir eu gwneud am ddiodydd alcoholaidd);
(c) Erthygl 6(2) (gofyniad i gyfiawnhau defnyddio honiadau);
(ch) Erthygl 7 (gofynion ar gyfer gwybodaeth faethol);
(d) Erthygl 8(1) (gofynion ar gyfer honiadau maethol);
(dd) Erthygl 9 (gofynion ar gyfer honiadau cymharol);
(e) Erthygl 10(1), (2) a (3) (gofynion ar gyfer honiadau am iechyd);
(f) Erthygl 12 (gwahardd honiadau penodol am iechyd);
(ff) Erthygl 14(2) (gofynion ar gyfer honiadau am leihau risg clefydau).”
(3) Yn rheoliad 5 (tramgwyddau a chosbau)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer “(1)” fel bod y testun presennol yn dod yn rheoliad 5;
(ii) yn lle “ddarpariaethau’r Rheoliad a bennir ym mharagraff (2) neu sy’n methu cydymffurfio â hwy” rhodder “ddarpariaeth benodedig o’r Rheoliad neu sy’n methu â chydymffurfio â’r ddarpariaeth honno”;
(b) hepgorer paragraff (2).
(4) Yn rheoliad 6 (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau’r Ddeddf)—
(a) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) adran 10(1) a (2) (hysbysiadau gwella) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen;”;
(b) ar ôl paragraff (dd) mewnosoder—“
(dda) adran 32(1) i (8) (pwerau mynediad) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen;
(ddb) adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);”;
(c) ar ôl paragraff (e) mewnosoder—“
(ea) adran 35 (cosbi tramgwyddau) gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen;”;
(d) ar ôl paragraff (ff) hepgorer “ac” a mewnosoder—“
(ffa) adran 37(1), (3), (5) a (6) (apelau i lys ynadon) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen;
(ffb) adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 5 o’r Atodlen;”.
(5) Hepgorer rheoliad 7 (rhwystro swyddogion a darparu gwybodaeth etc).
(6) Ar ôl y llofnod a’r dyddiad, mewnosoder yr Atodlen a ganlyn—“
YR ATODLEN
Addasu darpariaethau’r Ddeddf
Rheoliad 6
RHAN 1 Addasu adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella)
1. 
Mae adran 10(1) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei lle—“
(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a specified provision of the Regulation, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a) state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with a specified provision of the Regulation;
(b) specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;
(c) specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance;
(d) require the person to take those measures, or measures which are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.”
RHAN 2 Addasu adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad)
2. 
Mae adran 32(1) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraffau (a) i (c)—“
(a) to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there is or has been any contravention of a specified provision of the Regulation;
(b) to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention within that area of a specified provision of the Regulation;”.
RHAN 3 Addasu adran 35 o’r Ddeddf (cosbi tramgwyddau)
3. 
Mae adran 35 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1A)—“
(1B) A person guilty of an offence under section 10(2) shall be liable, on summary conviction, to a fine.”
RHAN 4 Addasu adran 37 o’r Ddeddf (apelau i lys ynadon)
4. 
Mae pennawd adran 37 i’w ddarllen fel pe bai “or sheriff” wedi ei hepgor.
5. 
Mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei lle—“
(1) Any person who is aggrieved by a decision of an unauthorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice may appeal to the magistrates’ court.”.
6. 
Mae is-adran (5) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei lle—“
(5) An appeal as is mentioned in subsection (3) above must be made within the earlier of—
(a) the period of 28 days beginning with the day on which the improvement notice was served on the person desiring to appeal, or
(b) the period specified in the improvement notice,
and, in the case of such an appeal as is mentioned in subsection (3) above, the making of the complaint shall be deemed for the purpose of this subsection to be the bringing of the appeal.”.
7. 
Mae is-adran (6) i’w darllen fel pe bai—
(a) “or (4)” wedi ei hepgor, a
(b) ym mharagraff (a), “or to the sheriff” wedi ei hepgor.
RHAN 5 Addasu adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)
8. 
Mae is-adran (3) i’w darllen fel pe bai “for want of prosecution” wedi ei hepgor.”
Sarah Murphy
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2024