Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro gwallau yn O.S. 2024/698 (Cy. 96) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2024 Rhif 1002 (Cy. 171)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion) (Cymru) 2024
Gwnaed 7 Hydref 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 9 Hydref  2024
Yn dod i rym 4 Tachwedd 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 89B(1), 89C(2) a 92 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2024.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “cynllun Gweinidogion Cymru”, yn lle “is-adran” rhodder “adran”, a
(b) hepgorer y diffiniad o “diwrnod gwaith”.
(3) Yn rheoliad 7(3)(a), yn lle “578(1)” rhodder “578”.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011
3 
Yn Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011, yn lle is-baragraff (2) o baragraff 5A o Atodlen 2 rhodder—“
(2) Yn y paragraff hwn—
 mae i “cais” (“application”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2024;
 mae i “cylch derbyn arferol” (“normal admission round”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2024;
 ystyr “y cynllun ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn yr awdurdod lleol” (“the scheme for co-ordinating admission arrangements of the local authority”) yw—
(a) cynllun a fabwysiedir gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 4(1) o Reoliadau 2024, neu
(b) cynllun a osodir ar yr awdurdod lleol gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 89B(2) o Ddeddf 1998;
 mae i “ffurflen gais gyffredin” (“common application form”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2024.”
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2024