
2023 Rhif 991 (Cy. 160)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 12 Medi 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 14 Medi 2023
Yn dod i rym 9 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 81(5)(a) a (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi a dod i rym

1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Hydref 2023.
Diwygio rheoliad 1(3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001

2 
Yn rheoliad 1(3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”, ar ôl “cyngor cymuned,” mewnosoder “cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Medi 2023