
2023 Rhif 988 (Cy. 159)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 11 Medi 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13 Medi 2023
Yn dod i rym 9 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 53(11) ac adran 105(2)(a) a (2)(b) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi a dod i rym

1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 9 Hydref 2023.
Diwygiadau i Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

2 
Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2—
(a) yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”;
(b) yn y diffiniad o “aelod annibynnol”—
(i) yn is-baragraff (b), ar ôl “swyddog” hepgorer “neu”;
(ii) yn is-baragraff (c), ar ôl “cymuned” mewnosoder “, neu”;
(iii) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “(ch) pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn berson sy’n aelod, yn aelod cyfetholedig nac yn swyddog o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw nac o’i awdurdodau cyfansoddol, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol, nac yn briod nac yn bartner sifil i’r aelod, yr aelod cyfetholedig neu’r swyddog hwnnw;”;
(c) yn y diffiniad o “aelod panel lleyg”—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “cymuned,” hepgorer “neu”;
(ii) yn is-baragraff (b), ar ôl “cymuned” hepgorer “;” a mewnosoder “, neu”;
(iii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(c) pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig,
(i) sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw, neu
(ii) sy’n aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol nad yw’n aelod cymwys o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw;”;
(d) yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”—
(i) yn is-baragraff (c) hepgorer “ac”;
(ii) yn is-baragraff (ch), ar ôl “achub” hepgorer “;” a mewnosoder “, a”;
(iii) ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder “(d) cyd-bwyllgor corfforedig;”.
4 
Yn rheoliad 4—
(a) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“(aa) pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, aelodau o awdurdodau cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw ond nid aelodau cyfetholedig o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw heblaw’r rhai a gyfetholwyd ar gyfer aelodaeth o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”;
(b) ym mharagraff (c), ar ôl “cymunedol” mewnosoder “ac eithrio pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig”.
5 
Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer “Rhaid” a mewnosoder “Yn ddarostyngedig i (1A), rhaid”;
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Pan fo’r awdurdod perthnasol y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1) yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i berson sydd wedi bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, ond nad yw’n aelod mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw.”;
(c) ym mharagraff (2), ar ôl “nad yw’r person hwnnw wedi bod yn aelod ohono” mewnosoder “, ond, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, ni chaiff y person fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod cyfansoddol nac Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw”.
6 
Yn rheoliad 7—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer “Rhaid” a mewnosoder “Yn ddarostyngedig i (1A), rhaid”;
(ii) yn y testun Cymraeg, ar ôl “nad yw’n” yn lle “aelod” rhodder “swyddog”;
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Pan fo’r awdurdod perthnasol y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i berson sydd wedi bod yn swyddog o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n swyddog o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, ond nad yw’n swyddog ohono mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw.”;
(c) ym mharagraff (2), yn lle “, ond nad yw’n aelod mwyach” rhodder “neu, os yw’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn swyddog o’i awdurdodau cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol, ond nad yw’n swyddog mwyach”.
7 
Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i gadeirydd awdurdod o’r fath beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw.”.
8 
Yn rheoliad 18—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) ar ôl “aelod o’r awdurdod hwnnw” mewnosoder“, neu aelod o bwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”;
(ii) ar ôl “ar gyfer yr awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdod cyfansoddol”;
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “awdurdod lleol o dan sylw” mewnosoder “, neu, yn achos cyd-bwyllgor corfforedig, o awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”.
9 
Yn rheoliad 19, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau’r awdurdod hwnnw sy’n aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol yr awdurdod hwnnw beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan y bydd aelodaeth yr aelod hwnnw o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol yn dod i ben, a bydd aelodaeth aelod o’r fath o’r pwyllgor safonau hwnnw yn dod i ben os yw aelodaeth yr aelod hwnnw o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw yn dod i ben.”.
10 
Yn rheoliad 21(1), ar ôl “aelod o’r awdurdod hwnnw,”, mewnosoder “neu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”.
11 
Yn rheoliad 23(1), yn lle “neu’r awdurdodau perthnasol o dan sylw” rhodder “na’r awdurdodau perthnasol o dan sylw neu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, nad yw’n aelod o’i awdurdodau lleol cyfansoddol nac o’i Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol”.
12 
Yn rheoliad 25—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “pwyllgor safonau” mewnosoder “, ac eithrio pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig,”;
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “pwyllgor safonau” mewnosoder “, ac eithrio pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig,”;
(c) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Rhaid i bwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig gynnal o leiaf un cyfarfod yn ystod pob cyfnod o 12 mis ar ôl i’r pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw gael ei sefydlu.”.
13 
Yn rheoliad 26, mewnosoder—“
(10) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig.”.
14 
Yn rheoliad 27, mewnosoder—“
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig.”.
15 
Yn rheoliad 28, mewnosoder—“
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig.”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Medi 2023