
2023 Rhif 944 (Cy. 154)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Gwnaed 31 Awst 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 1 Medi 2023
Yn dod i rym 2 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5), (6) a (12) a 191(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, dod i rym a chymhwyso

1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Hydref 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiad i Reoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990

2 
Mae Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—“
 “local authority” includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
31 Awst 2023