
2023 Rhif 919 (Cy. 144) (C. 52)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023
Gwnaed 21 Awst 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 148(2) a (3) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, ac mae i eiriau ac ymadroddion eraill yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Medi 2023
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Medi 2023—
(a) adran 13 (datganiad o flaenoriaethau strategol);
(b) adran 14 (cynllun strategol ar gyfer y Comisiwn);
(c) adran 17 (rhyddid academaidd darparwyr a staff addysg uwch);
(d) adran 18 (awtonomi sefydliadol darparwyr addysg drydyddol);
(e) adran 19 (cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu darparwyr addysg drydyddol);
(f) adran 20 (canllawiau);
(g) adran 21 (pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau cyffredinol);
(h) adran 22 (swyddogaethau ychwanegol y Comisiwn);
(i) adran 24 (cynlluniau trosglwyddo);
(j) adran 25(7) (y gofrestr);
(k) adran 30(1) (amodau cymesur);
(l) adran 34 (pŵer i ddarparu ar gyfer amodau cofrestru parhaus mandadol pellach);
(m) adran 46 (gofynion ar gyfer datganiad terfyn ffioedd);
(n) adran 85(1), (2)(a) a (b) (pŵer Gweinidogion Cymru i gyllido’r Comisiwn);
(o) adran 87(2) (polisi ar bwerau cyllido);
(p) adran 89(1) a (2) (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau);
(q) adran 130 (gwybodaeth a chyngor oddi wrth y Comisiwn a gwybodaeth oddi wrth Weinidogion Cymru);
(r) adran 132(1)(a) i (e), (g) i (k) a (2) (pwerau i rannu gwybodaeth);
(s) adran 141 (diogelu data);
(t) adran 142 (cyhoeddi);
(u) adran 147 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
(v) yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—
(i) paragraff 5 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii) paragraff 7 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(iii) paragraff 8(1) i (3), (6) i (8) a (10);
(iv) paragraff 9(1) i (3) a (4)(a);
(v) paragraff 10 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(vi) paragraff 11(1) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, (3), (4) a (6) i (10);
(vii) paragraff 13;
(viii) paragraff 14;
(ix) paragraff 15(1)(a);
(x) paragraff 18;
(xi) paragraff 19;
(xii) paragraff 20;
(xiii) paragraff 21;
(xiv) paragraff 22;
(w) Atodlen 2 (trosglwyddo eiddo a staff i’r Comisiwn);
(x) yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i) paragraff 20(1);
(ii) paragraff 20(2)(a);
(iii) paragraff 28(a).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Medi 2023 i’r graddau a bennir
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Medi 2023 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a) adran 2 (hybu dysgu gydol oes), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 2 yn cael ei dwyn i rym);
(b) adran 3 (hybu cyfle cyfartal), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 3 yn cael eu dwyn i rym);
(c) adran 4 (annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 4 yn cael eu dwyn i rym);
(d) adran 5 (hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 5 yn cael ei dwyn i rym);
(e) adran 6(1)(a) (hybu gwaith ymchwil ac arloesi), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 6(1)(a) yn cael ei dwyn i rym);
(f) adran 7 (hybu cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 7 yn cael eu dwyn i rym);
(g) adran 8 (cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 8 yn cael ei dwyn i rym);
(h) adran 9(1) (hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 9(1) yn cael eu dwyn i rym);
(i) adran 10 (hybu cenhadaeth ddinesig), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 10 yn cael ei dwyn i rym);
(j) adran 11 (hybu golwg fyd-eang), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 11 yn cael eu dwyn i rym);
(k) adran 12 (hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur), at ddibenion llunio cynllun strategol o dan adran 14 (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 12 yn cael ei dwyn i rym);
(l) adran 25, at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(m) adran 25(1), (4), (6)(a) a (6)(b) (i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-adrannau (4) a (5)), at ddibenion adran 25(7) (ond nid fel bod unrhyw ddyletswyddau o dan yr is-adrannau hynny yn cael eu dwyn i rym);
(n) adran 25(4)(d), at ddibenion adran 27(2) (amodau cofrestru cychwynnol) (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 25(4)(d) yn cael ei dwyn i rym);
(o) adran 25(9)(a) a (10) (i’r graddau y mae is-adran (10) yn ymwneud ag is-adran (9)(a));
(p) adran 27 (amodau cofrestru cychwynnol), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(q) adran 27(1), (2) ac (8), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i lunio’r ddogfen y cyfeirir ati yn adran 27(2) (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 27(2) yn cael ei dwyn i rym);
(r) adran 28(1) i (3) (amodau cofrestru parhaus cyffredinol), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol yn unol ag adran 28(1) (ond nid fel bod y dyletswyddau o dan adran 28(1) yn cael eu dwyn i rym);
(s) adran 31(1)(a) i (f), (i), (j) a (2) (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfer pob darparwr cofrestredig), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol yn unol ag adran 28(1) (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan adran 31(1) yn cael ei dwyn i rym);
(t) adran 32 (amod cofrestru parhaus mandadol ar y terfynau ffioedd), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(u) adran 32 ac adran 33 (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfle cyfartal), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol yn unol ag adran 28(1) (ond nid fel bod unrhyw ddyletswyddau o dan adrannau 32 a 33 yn cael eu dwyn i rym);
(v) adran 35 (dyletswydd y Comisiwn i roi canllawiau ynghylch amodau cofrestru parhaus), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i lunio canllawiau ar gyfer darparwyr cofrestredig ynghylch amodau cofrestru parhaus (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan yr adran honno yn cael ei dwyn i rym);
(w) adran 36 (dyletswydd y Comisiwn i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu sut y bydd yn monitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus gan ddarparwyr cofrestredig (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan yr adran honno yn cael ei dwyn i rym);
(x) adran 41 (datgofrestru), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(y) adran 43 (datgofrestru’n wirfoddol a datgofrestru gyda chydsyniad), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(z) adran 47(1) i (5) (cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gymryd camau tuag at benderfynu’r amod terfyn ffioedd yn unol ag adran 32(3)(a) a’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol yn unol ag adran 28(1) (ond nid fel bod unrhyw ddyletswyddau o dan adran 47(2) na (4) yn cael eu dwyn i rym);
(aa) adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(bb) adran 57 (dyletswydd y Prif Arolygydd i arolygu ac adrodd), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(cc) adran 83 (dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(dd) adran 84 (dehongli Rhan 2), ac eithrio’r diffiniad o “ffioedd uwchlaw’r terfyn”;
(ee) adran 87(1) a (5), ac eithrio’r cyfeiriadau at adrannau 88 a 105 yn is-adran (5), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87(1) (ond nid fel bod y ddyletswydd o dan yr adran honno yn cael ei dwyn i rym);
(ff) adran 88 (cymorth ariannol i ddarparwyr penodedig ar gyfer addysg uwch), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(gg) adran 89(3) i (5), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;
(hh) adran 97 (cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;
(ii) adran 101 (y chweched dosbarth mewn ysgolion), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;
(jj) adran 103 (cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;
(kk) adran 104 (cymorth ariannol ar gyfer prentisiaethau), at ddibenion llunio datganiad o dan adran 87;
(ll) adran 105 (cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno;
(mm) yn Atodlen 1, paragraff 9(5), ac eithrio i’r graddau y mae’n cyfeirio at baragraff 6(5).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024
4 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2024—
(a) adrannau 2 i 5 a 7 i 12 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) adran 16 (adolygu’r cynllun strategol);
(c) adran 85 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(d) yn Atodlen 1—
(i) paragraff 4 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii) paragraff 6;
(iii) paragraff 8 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(iv) paragraff 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(v) paragraff 11 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e) yn Atodlen 4—
(i) paragraff 28 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii) paragraff 40.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024 i’r graddau a bennir
5 
Daw adran 94 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed) i rym ar 1 Ebrill 2024 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024 yn ddarostyngedig i drefniadau darfodol
6 

(1) Daw adran 15 (cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu’r cynllun strategol) i rym ar 1 Ebrill 2024 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2) sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024 ac sy’n dod i ben ar 16 Rhagfyr 2024.
(2) Mae adran 15(1) i’w darllen fel pe bai’r geiriau “cynllun strategol a lunnir o dan adran 14 at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad o dan adran 13(1)” yn darllen fel “y cynllun strategol cyntaf y mae’n ei lunio o dan adran 14 at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo erbyn 15 Rhagfyr 2024”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
21 Awst 2023