
2023 Rhif 85 (Cy. 15)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2023
Gwnaed 29 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 31 Ionawr 2023
Yn dod i rym 1 Chwefror 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2023.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.
Diwygio’r Prif Reoliadau
2 

(1) Mae’r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4D (personau sy’n gwneud ceisiadau hwyr o dan Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “Subject to paragraph (4), no” rhodder “No”;
(b) hepgorer paragraff (4);
(c) yn lle paragraff (5) rhodder—“
(5) Where a person has made an application mentioned in paragraph (2)(b) or (3)(b) and has received relevant services during the period specified in paragraph (1), if the Local Health Board or NHS trust—
(a) has made charges for relevant services received during that period, but has not yet recovered them, it must not recover those charges;
(b) has made and recovered charges for relevant services received during that period, it must repay any sum paid in respect of those charges.”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2023