
2023 Rhif 783 (Cy. 124)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023
Gwnaed 7 Gorffennaf 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Gorffennaf 2023
Yn dod i rym 17 Medi 2023

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod perthnasol, yn gwneud y Rheoliadau yn Rhan 1 o’r Offeryn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 64(1), (2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“Deddf 1984”) fel y maent wedi eu hestyn gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod perthnasol a’r awdurdod cenedlaethol, yn rhoi’r Cyfarwyddydau Cyffredinol yn Rhan 2 o’r Offeryn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 65(1) a 85(2) o Ddeddf 1984.
Mae Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â’r Rheoliadau yn Rhan 1, yn unol ag adran 134(10) o Ddeddf 1984, wedi ymgynghori â’r sefydliadau cynrychioliadol yr oeddent yn meddwl eu bod yn addas ac, yn unol ag adran 134(13) o Ddeddf 1984, maent wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Mae Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddydau Cyffredinol yn Rhan 2, yn unol ag adrannau 65(3ZC) a 85(10) o Ddeddf 1984, wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
RHAN 1 Rheoliadau Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023
Enwi, cymhwyso a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rhan hon o’r Offeryn yw—
(a) Rheoliadau Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023, a
(b) ynghyd â Rhan 2, Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Medi 2023.
Diwygio Rheoliadau Arwyddion Traffig 2016
2 
Mae Rheoliadau Arwyddion Traffig 2016 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
Diwygio Atodlen 2
3 

(1) Yn Atodlen 2, yn y tabl yn Rhan 2 (Arwyddion rhybudd a phlatiau cysylltiedig)—
(a) yn y rhes yn eitem 25, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”,
(b) ar ôl y rhes yn eitem 25, mewnosoder—“
25A Diagram 545.2In relation to Wales, children going to or from school or playground area  1. In the Welsh text—
(a) “Ysgol”, “Hebryngwr”, “Maes chwarae”, “Plant anabl”, “Plant dall” or “Plant byddar” with or without an arrow pointing to the left or to the right;
(b) “Ysgol”, “Hebryngwr”, “Maes chwarae”, “Plant anabl”, “Plant dall” or “Plant byddar” and a distance with or without an arrow pointing to the left or to the right; or
(c) “Dim troedffordd am” and a distance; and2. In the English text—
(a) “School”, “Patrol”, “Playground”, “Disabled children”, “Blind children” or “Deaf children” with or without an arrow pointing to the left or to the right;
(b) “School”, “Patrol”, “Playground”, “Disabled children”, “Blind children” or “Deaf children” and a distance with or without an arrow pointing to the left or to the right; or
(c) “No footway for” and a distance. 5  1”
(c) yn y rhes yn eitem 43, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”, a
(d) ar ôl y rhes yn eitem 43, mewnosoder—“
43A Diagram 557.2In relation to Wales, road hump or series of road humps ahead  1. In the Welsh text—
(a) “Twmpath” or “Twmpathau” with or without an arrow pointing to the left or to the right;
(b) “Twmpath” or “Twmpathau” with two arrows, one pointing to the left and one pointing to the right;
(c) “Twmpath” or “Twmpathau am” and a distance, with or without an arrow pointing to the left or to the right;
(d) “Twmpath” or “Twmpathau am” and a distance, with two arrows, one pointing to the left and one pointing to the right; or
(e) “Ardal tawelu traffig”; and2. In the English text—
(a) “Hump” or “Humps” with or without an arrow pointing to the left or to the right;
(b) “Hump” or “Humps” with two arrows, one pointing to the left and one pointing to the right;
(c) “Hump” or “Humps for” and a distance, with or without an arrow pointing to the left or to the right;
(d) “Hump” or “Humps for” and a distance, with two arrows, one pointing to the left and one pointing to the right; or
(e) “Traffic calmed area”. 5  1”
(2) Yn Atodlen 2, yn y tabl yn Rhan 3 (Platiau cysylltiedig atodol i’w gosod mewn cyfuniad ag arwyddion yn Rhan 2), ar y diwedd, mewn rhes newydd, mewnosoder—“
5 Diagram 545.3In relation to Wales, road safety image or slogan  ”
Diwygio Atodlen 10
4 
Yn Atodlen 10, yn y tabl yn Rhan 2 (Arwyddion a marciau ffordd sy’n dynodi terfynau cyflymder)—
(a) yn y rhes yn eitem 5, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”,
(b) yn y rhes yn eitem 6, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”, ac
(c) yn y rhes yn eitem 7, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”.
Diwygio Atodlen 11
5 
Yn Atodlen 11, yn y tabl yn Rhan 2 (Arwyddion unionsyth)—
(a) ar ôl y rhes yn eitem 32, mewnosoder—“
32A Diagram 883.1In relation to Wales, end of traffic calmed area    ”
(b) yn y rhes yn eitem 64, yn yr ail golofn (Disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”, ac
(c) ar ôl y rhes yn eitem 64, mewnosoder—“
64A Diagram 880.2In relation to Wales, speed camera ahead on a lit road and reminder of 20 mph speed limit  21 (2)  ”
Diwygio Atodlen 13
6 
Yn Atodlen 13, yn y tabl yn Rhan 6 (arwyddion dros dro ychwanegol)—
(a) yn y rhes yn eitem 38, yn yr ail golofn (disgrifiad), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”, a
(b) ar ôl y rhes yn eitem 38, mewnosoder—“
38A Diagram 7032.1In relation to Wales, commencement point or warning of the commencement point of a newly imposed 20 mph speed limit  1. “O’CH BLAEN” may be inserted after “MYA” in the Welsh text.2. “AHEAD” may be inserted after “LIMIT” in the English text. 8 13A”
RHAN 2 Cyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023
Enwi, cymhwyso a dod i rym
7 

(1) Enw’r Rhan hon o’r Offeryn yw—
(a) Cyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023, a
(b) ynghyd â Rhan 1, Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Cyfarwyddydau Cyffredinol hyn i rym ar 17 Medi 2023.
Diwygio Cyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016
8 
Mae Cyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 wedi eu diwygio yn unol â chyfarwyddydau 9 a 10.
Diwygio Atodlen 10
9 
Yn Atodlen 10, yn Rhan 4 (Cyfarwyddydau Cyffredinol Atodlen 10), yn lle paragraff 2, rhodder—“
2. 
This sign must not be placed as a repeater sign where—
(a) in relation to England, the road is subject to a maximum speed limit of 30 mph and has a system of carriageway lighting; or
(b) in relation to Wales, the road is subject to a maximum speed limit of 20 mph and has a system of carriageway lighting.”
Diwygio Atodlen 13
10 
Yn Atodlen 13, yn Rhan 12 (Cyfarwyddydau Cyffredinol Atodlen 13) ar ôl paragraff 13, mewnosoder—“
13A. 
The sign may only be placed—-
(a) to indicate or give warning of the point at which a recently imposed speed limit of 20 mph begins on a road; and
(b) during the period of 12 months beginning with the day on which the 20 mph speed limit comes into force.”
RHAN 3
Darpariaeth drosiannol ac arbedion
11 

(1) Mae arwydd traffig i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio ag Offeryn 2016 fel y’i diwygir gan yr Offeryn hwn—
(a) pan fo’r arwydd traffig yn ei le yn union cyn 17 Medi 2023,
(b) pan fo’r arwydd traffig yn cydymffurfio ag Offeryn 2016 fel yr oedd mewn grym yn union cyn 17 Medi 2023, ac
(c) pan na fo’r arwydd traffig yn cydymffurfio ag Offeryn 2016 fel y’i diwygir gan yr Offeryn hwn.
(2) Ond mae paragraff (1)—
(a) yn peidio â bod yn gymwys i arwyddion traffig a ragnodir gan eitem 9 yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 10 i Offeryn 2016 ar ddiwedd y dydd ar 16 Medi 2028;
(b) yn peidio â bod yn gymwys i unrhyw arwyddion traffig eraill ar ddiwedd y dydd ar 16 Medi 2024.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i arwyddion traffig a ragnodir gan eitem 64 yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 11 i Offeryn 2016.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “Offeryn 2016” yw Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016;
(b) mae i “arwydd traffig” yr ystyr a roddir i “traffic sign” yn adran 64(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Lee Waters
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2023