
2023 Rhif 76 (Cy. 14)
Tai, Cymru
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 25 Ionawr 2023
Yn dod i rym 30 Ionawr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 ac adran 61 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 iddi.

Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 30 Ionawr 2023.
Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014
2 
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
Diwygiadau i reoliad 3
3 
Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “ac” yn union ar ôl paragraff (k),
(b) ar ddiwedd paragraff (l), yn lle “.” rhodder “; ac”, ac
(c) ar ôl paragraff (l) mewnosoder—“
(m) Dosbarth M – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth.”
Diwygiadau i reoliad 5
4 
Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer yr “ac” yn union ar ôl is-baragraff (l);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (m), yn lle “.” rhodder “; ac”, ac
(c) ar ôl is-baragraff (m) mewnosoder—“
(n) Dosbarth N – person sydd â chaniatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag Atodiad i’r Rheolau Mewnfudo: Caniatâd Dros Dro i Aros i Ddioddefwyr y Fasnach mewn Pobl neu Gaethwasiaeth.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
25 Ionawr 2023