
2023 Rhif 724 (Cy. 110)
Cydraddoldeb, Cymru
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023
Gwnaed 28 Mehefin 2023
Yn dod i rym 4 Medi 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 151(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Yn unol ag adran 152(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Yn unol ag adran 209(2), (3)(b) a (6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Medi 2023.
Diwygiadau i Ran 2 o Atodlen 19 (awdurdodau Cymreig perthnasol)
2 
Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010—
(a) hepgorer “The Higher Education Funding Council for Wales or Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder “The Commission for Tertiary Education and Research or Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.”
Darpariaeth drosiannol
3 
Hyd nes bod adran 23 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn dod i rym, mae’r cyfeiriad at y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2023