
2023 Rhif 723 (Cy. 109) (C. 37)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 5) 2023
Gwnaed 28 Mehefin 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 5) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2023
2 
Daw adran 19(3) a (4) (cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd) o’r Ddeddf i rym ar 1 Gorffennaf 2023.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2023