
2023 Rhif 67 (Cy. 12)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023
Gwnaed 23 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Ionawr 2023
Yn dod i rym 10 Ebrill 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), 64(2)(b), 66 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2023.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£35” rhodder “£39.50”;
(b) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£35” rhodder “£39.50”.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015
3 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru)—
(i) ym mharagraff 20, yn y disgrifiad rhwng cromfachau o baragraffau 21 i 24 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, ar ôl y geiriau “Gronfa Byw’n Annibynnol” mewnosoder “, unrhyw daliad Tŵr Grenfell, taliad camdriniaeth plant, taliad Windrush ac unrhyw daliad a wneir gan Ymddiriedolaeth y Plant Mudol o dan y cynllun ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig”;
(ii) ar ôl paragraff 39 mewnosoder—“
40. 
Unrhyw daliad a wneir o dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn unol ag adrannau 7(3)(a) a 107 o Ddeddf Trydan 1989.
41. 
Unrhyw daliad a wneir o dan adrannau 1, 4 a 5 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Taliadau Ychwanegol) 2022 (taliadau ychwanegol sy’n dibynnu ar brawf modd a thaliadau ychwanegol anabledd).”
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2023