
2023 Rhif 65 (Cy. 10)
Tribiwnlysoedd Cymru
Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023
Gwnaed 23 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25 Ionawr 2023
Yn dod i rym 17 Chwefror 2023
Mae Gweinidogion Cymru gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124(3) a 4(e) a 129(1)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddi Barnwrol (Eistedd mewn Ymddeoliad – Swyddi Rhagnodedig a’u Disgrifiadau) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2023.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Banel Dyfarnu Cymru” (“legally qualified member of the Adjudication Panel for Wales”) yw person (“P”) a oedd pan y’i penodwyd i swydd ragnodedig yn bodloni’r disgrifiad a ganlyn—
(a) roedd P yn bodloni’r amod o ran cymhwysedd ar gyfer penodiad barnwrol ar sail pum mlynedd;
(b) roedd P yn eiriolwr neu’n gyfreithiwr yn yr Alban a chanddo bum mlynedd o wasanaeth;
(c) roedd P yn aelod o Far Gogledd Iwerddon; neu
(d) roedd gan P brofiad cyfreithiol a oedd yn addas ym marn Gweinidogion Cymru.
Swyddi a ragnodir mewn perthynas â phenodiad i swydd eistedd mewn ymddeoliad
3 
Mae person sy’n dal neu sydd wedi dal swydd a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen (“swyddi rhagnodedig”) yn gymwys i’w benodi i’r swydd eistedd mewn ymddeoliad a restrir yn rhes gyfatebol colofn 1.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2023Rwyf yn cydsynio
Wyn Williams
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
19 Ionawr 2023
YR ATODLEN
Swyddi Eistedd mewn Ymddeoliad Swyddi Barnwrol a Restrir yn Rhan 5 o Atodlen 3 i’r Ddeddf a Swyddi Rhagnodedig Cyfatebol
Rheoliad 3


Tabl
Colofn 1:Swydd eistedd mewn ymddeoliad Colofn 2:Swyddi rhagnodedig
1. Dirprwy Gadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) Cadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol CymruDirprwy Gadeirydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
2. Aelod cyfreithiol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl CymruAelod cyfreithiol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
3. Aelod cyfreithiol o Bwyllgor Asesu Rhenti Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) Llywydd Pwyllgor Asesu Rhenti CymruIs-lywydd Pwyllgor Asesu Rhenti CymruAelod o’r panel o bersonau a benodwyd i weithredu fel cadeirydd Pwyllgor Asesu Rhenti Cymru
4. Aelod cyfreithiol o Dribiwnlys y Gymraeg (eistedd mewn ymddeoliad) Llywydd Tribiwnlys y GymraegAelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Dribiwnlys y Gymraeg
5. Aelod o Banel Dyfarnu Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) Llywydd Panel Dyfarnu CymruDirprwy Lywydd Panel Dyfarnu CymruAelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith o Banel Dyfarnu Cymru
6. Aelod o banel cadeirydd cyfreithiol Tribiwnlys Addysg Cymru (eistedd mewn ymddeoliad) Llywydd Tribiwnlys Addysg CymruDirprwy Lywydd Tribiwnlys Addysg CymruAelod o banel cadeirydd cyfreithiol Tribiwnlys Addysg Cymru