
2023 Rhif 633 (Cy. 97)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023
Gwnaed 12 Mehefin 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 14 Mehefin 2023
Yn dod i rym	 6 Gorffennaf 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
RHAN 1 Enwi a dod i rym
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Gorffennaf 2023.
RHAN 2 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 1
Cyflwyniad
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”
3 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) ar ôl “Ynysoedd Turks a Caicos” mewnosoder “; Ynysoedd y Wyryf;”;
(b) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys Ascension a Tristan da Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.
PENNOD 3
Diwygiadau i’r diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”
4 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(a) yn lle paragraff (d) rhodder—“
(d) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;”;
(b) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(da) caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;
(db) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;”.
RHAN 3 Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
PENNOD 1
Cyflwyniad
5 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”
6 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1)—
(a) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan de Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) ar ôl “Ynysoedd Turks a Caicos” mewnosoder “; Ynysoedd y Wyryf;”;
(b) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.
PENNOD 3
Diwygiadau i’r diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”
7 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”—
(a) yn lle paragraff (e) rhodder—“
(e) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;”;
(b) ar ôl paragraff (e) mewnosoder—“
(ea) caniatâd i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;
(eb) caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;”.
RHAN 4 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
PENNOD 1
Cyflwyniad
8 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiadau i ddarpariaethau terfynu cymhwystra yn gynnar
9 
Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (11) mewnosoder—“
(11A) Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10), (10A), (10B), (10C), (10D), (10E) na (10F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—
(a) bo A; neu
(b) bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr cymhwysol,
yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
10 
Yn rheoliad 81, ar ôl paragraff (10F) mewnosoder—“
(10G) Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10), (10A), (10B), (10C), (10D), (10E) na (10F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—
(a) bo A; neu
(b) bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys,
yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
11 
Yn rheoliad 110, ar ôl paragraff (12F) mewnosoder—“
(12G) Nid yw paragraffau (11), (11A), (11B), (12), (12A), (12B), (12C), (12D), (12E) na (12F) yn gymwys pan, ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi—
(a) bo A; neu
(b) bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,
yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
RHAN 5 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
PENNOD 1
Cyflwyniad
12 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”
13 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11(1)—
(a) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;
(b) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.
PENNOD 3
Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”
14 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2ZA(4), ym mharagraff (ea)—
(a) yn lle is-baragraff (i) rhodder—“
(i) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,”;
(b) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ia) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,
(ib) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,”.
PENNOD 4
Diwygiadau i ddarpariaethau terfynu cymhwystra yn gynnar
15 
Ar ôl rheoliad 23G mewnosoder—“
23H. 
Nid yw rheoliadau 22, 22A, 23, 23A, 23B, 23C, 23D, 23E, 23F na 23G yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi—
(a) bo P; neu
(b) bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i P fod yn fyfyriwr cymwys,yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
16 
Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 13G mewnosoder—“
13H. 
Nid yw paragraffau 12, 12A, 13, 13A, 13B, 13C, 13D, 13E, 13F na 13G yn gymwys pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi—
(a) bo P; neu
(b) bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.”.
RHAN 6 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
PENNOD 1
Cyflwyniad
17 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”
18 
Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1)—
(a) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”;
(b) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf;”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos; ac Ynysoedd y Wyryf”.
PENNOD 3
Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”
19 
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—
(a) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;”;
(b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;
(ab) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;”.
RHAN 7 Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
PENNOD 1
Cyflwyniad
20 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
PENNOD 2
Diwygiadau i’r diffiniadau o “tiriogaethau tramor” a “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”
21 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 13(1)—
(a) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”;
(b) yn y diffiniad o “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”—
(i) hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf,”;
(ii) yn lle “St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension)” rhodder “St Helena, Ascension a Tristan da Cunha”;
(iii) yn lle “ac Ynysoedd Turks a Caicos” rhodder “Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf”.
PENNOD 3
Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”
22 
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2A(4)(da)—
(a) yn lle is-baragraff (i) rhodder—“
(i) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,”;
(b) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ia) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo,
(ib) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Mehefin 2023