
2023 Rhif 556 (Cy. 87)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023
Gwnaed 18 Mai 2023
Yn dod i rym 1 Mehefin 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 256(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a pharagraff 33 o Atodlen 12 iddi.

Yn unol ag adran 256(3), (4)(n) a (5) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2023.
Diwygiadau i Atodlen 12
2 
Mae Atodlen 12 (trosi tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy’n bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 ddod i rym) i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
3 
Ym mharagraff 1(1) (diffiniadau), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 mae i “contract sy’n cymryd lle contract arall” (“substitute contract”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 32;”.
4 
Ym mharagraff 11 (datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaeth)—
(a) yn lle is-baragraff (1A) rhodder—“
(1A) Pan fo hunaniaeth deiliad y contract wedi newid cyn 1 Mehefin 2023 (sef y diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod darparu gwybodaeth), mae adran 31(2) (rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad contract newydd) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”.”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract sy’n cymryd lle contract arall (ac yn unol â hynny mae adran 31 yn gymwys, fel y’i haddasir gan baragraff 11A, mewn perthynas â chontractau o’r fath).”.
5 
Ar ôl paragraff 11 mewnosoder—“
11A 

(1) Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth cyn 1 Mehefin 2023—
(a) mae adran 31(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”;
(b) mae adran 31(2) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”;
(c) mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”—
(i) adran 36(3)(a);
(ii) adran 37(3)(a);
(d) mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â dyddiad meddiannu’r contract”.
(2) Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth ar neu ar ôl 1 Mehefin 2023—
(a) mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriadau at y dyddiad meddiannu yn gyfeiriadau at y diwrnod y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall—
(i) adran 31(1);
(ii) adran 36(3)(a);
(iii) adran 37(3)(a);
(b) mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriad at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriad at y dyddiad y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall.”.
6 
Ym mharagraff 12A—
(a) ar ôl “chontract wedi ei drosi” mewnosoder “, heblaw am gontract sy’n cymryd lle contract arall,”;
(b) yn is-baragraff (b), ym mharagraff addasedig 2(a) o Atodlen 9A, hepgorer “(pan na fo wedi ei ddatgymhwyso gan baragraff 11(1A) o’r Atodlen honno)”.
7 
Ym mharagraff 13(1), ar ôl “chontract wedi ei drosi” mewnosoder “, heblaw am gontract sy’n cymryd lle contract arall,”.
8 
Ym mharagraff 15(3)(b), hepgorer “(gweler paragraff 32)”.
9 
Ym mharagraff 32(1) (contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contractau eraill), ar ôl “paragraff 28” mewnosoder “neu pan fo darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb”.
Diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021
10 
Hepgorer paragraff 27(2) o Atodlen 6 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
18 Mai 2023