
2023 Rhif 551 (Cy. 86)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023
Gwnaed 17 Mai 2023
Yn dod i rym 22 Mai 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5(1), 10(2)(b), 12(1), 13(1), 14(1), 16(1) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi, ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1 CYFFREDINOL
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Mai 2023.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher”) yr ystyr a roddir iddo yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
 mae i “athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher”) yr ystyr a roddir iddo yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016;
 ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015;
 ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017;
 mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
 mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996.
RHAN 2 YSGOLION ANNIBYNNOL
Gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol
3 

(1) Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn wasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol at ddibenion y Rhan hon—
(a) cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;
(b) cyflwyno gwersi i ddisgyblion;
(c) asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion;
(d) adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion;
(e) ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn yr ysgol.
(2) Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athro neu athrawes ysgol annibynnol
4 
Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes ysgol annibynnol.
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol
5 

(1) Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes ysgol annibynnol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes ysgol annibynnol.
RHAN 3 SEFYDLIADAU ÔL-16 ARBENNIG ANNIBYNNOL
Gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
6 

(1) Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn wasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol at ddibenion y Rhan hon—
(a) cynllunio a pharatoi addysg a hyfforddiant ar gyfer dysgwyr;
(b) cyflwyno addysg a hyfforddiant i ddysgwyr;
(c) asesu datblygiad a chynnydd dysgwyr;
(d) adrodd ar ddatblygiad a chynnydd dysgwyr;
(e) ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn y sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
(2) Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
7 
Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
8 

(1) Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.
RHAN 4 GWAITH IEUENCTID
Diwygiad i Orchymyn 2016
9 

(1) Mae Gorchymyn 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a) hepgorer y diffiniadau o “corff gwirfoddol” a “corff perthnasol”;
(b) mewnosoder yn y lle priodol—“
 ystyr “cyflogwr perthnasol” (“relevant employer”) yw person sy’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen bersonau i ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid yng Nghymru;”;“
 ystyr “Cyngor y Gweithlu Addysg” (“Education Workforce Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parhawyd â’i fodolaeth gan adran 2(1) o Ddeddf 2014;”.
(3) Yn erthygl 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg—
(a) llunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithiwr ieuenctid, a
(b) hysbysu Gweinidogion Cymru yn flynyddol pa un a ddylid diwygio’r rhestr o gymwysterau gweithiwr ieuenctid a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.”
(4) Ar ôl erthygl 3 mewnosoder—“
Cofrestru dros dro weithwyr ieuenctid
3A. 
Caiff person fod wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr ieuenctid os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 1.”
(5) Yn erthygl 4—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “sy’n dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014” rhodder “sydd o fewn paragraff (1A)”,
(ii) ar ôl “gwasanaethau datblygu ieuenctid” mewnosoder “yng Nghymru”, a
(iii) yn lle “corff” rhodder “cyflogwr”;
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Mae person o fewn y paragraff hwn—
(a) os yw’r person yn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014, neu
(b) os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 1.”
(6) Yn erthygl 5, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Rhaid i Gyngor y Gweithlu Addysg—
(a) llunio a chynnal rhestr o gymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid, a
(b) hysbysu Gweinidogion Cymru yn flynyddol pa un a ddylid diwygio’r rhestr o gymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2.”
(7) Ar ôl erthygl 5 mewnosoder—“
Cofrestru dros dro weithwyr cymorth ieuenctid
5A. 
Caiff person fod wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr cymorth ieuenctid os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 2.”
(8) Yn erthygl 6—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “sy’n dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014” rhodder “sydd o fewn paragraff (1A)”,
(ii) ar ôl “gwasanaethau datblygu ieuenctid” mewnosoder “yng Nghymru”, a
(iii) yn lle “corff” rhodder “cyflogwr”;
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Mae person o fewn y paragraff hwn—
(a) os yw’r person yn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014, neu
(b) os yw’r person yn gweithio tuag at ennill un o’r cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid yn Rhan 1 o Atodlen 2.”;
(c) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson—
(a) sy’n darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol); neu
(b) sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro fel gweithiwr ieuenctid yn unol ag erthygl 4.”
(9) Mae Atodlen 1 (Gweithwyr Ieuenctid) wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(10) Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 3(2) hepgorer paragraffau (a) a (b),
(b) ym mharagraff 4(2)—
(i) hepgorer paragraffau (a) i (e), (g) ac (i),
(ii) ym mharagraff (f), yn lle “dyfarniad” rhodder “tystysgrif”,
(c) ym mharagraff 5(2) hepgorer paragraff (a), a
(d) ym mharagraff 6(2), yn y testun Saesneg, hepgorer paragraffau (a) i (f) ac yn y testun Cymraeg, hepgorer paragraffau (a) i (e).
(11) Ond mae’r darpariaethau a hepgorir gan baragraff (10) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phersonau sydd wedi eu cofrestru yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid cyn cychwyn y Gorchymyn hwn hyd 31 Mai 2025.
RHAN 5 ATHRAWON YSGOL, GWEITHWYR CYMORTH DYSGU MEWN YSGOLION A GWEITHWYR CYMORTH DYSGU MEWN ADDYSG BELLACH
Diwygiadau i Reoliadau 2015
10 

(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 15—
(a) ailrifer y testun presennol yn baragraff (1);
(b) ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd mewnosoder—“
(2) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 18A (amgylchiadau pan gaiff gweithiwr cymorth dysgu gyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17).”
(3) Yn rheoliad 17(1)—
(a) yn is-baragraff (c) hepgorer yr “a” ar y diwedd;
(b) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(e) ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu yn yr ysgol.”
(4) Yn lle rheoliad 18A rhodder—“
Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
18A. 

(1) Ni chaiff person gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau a bennir yn rheoliad 17 mewn neu ar gyfer ysgol yng Nghymru (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai—
(a) ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol; a
(b) bod y pennaeth yn fodlon bod y person yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau mewn ysgol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes ysgol i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes ysgol.”
(5) Yn rheoliad 19A—
(a) ailrifer y testun presennol yn baragraff (1);
(b) ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd mewnosoder—“
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes addysg bellach i’r graddau y mae’r person hwnnw yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau fel rhan o rôl y person fel athro neu athrawes addysg bellach.”
RHAN 6 DIWYGIADAU I DDEDDF 2014
Diwygiadau i Ddeddf 2014
11 

(1) Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 yn Atodlen 2—
(a) yn lle’r disgrifiad o “Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” rhodder—“
 Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1)(a)(ii) ac sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.”;
(b) yn y disgrifiad o “Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” hepgorer y geiriau “, ac eithrio athro neu athrawes addysg bellach,”;
(c) mewnosoder ar ôl y cofnod ar gyfer “Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith”—“

Tabl 1Athro neu athrawes ysgol annibynnol Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.
Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.”
(3) Ym mharagraff 3 yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 “gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;”;“
 “gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;”;“
 mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);”;“
 mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.”
(4) Yn Nhabl 3 yn Atodlen 4, yn y lleoedd priodol yn y Tabl mewnosoder—
Gair neu ymadrodd Gair neu ymadrodd yn y Saesneg Darpariaeth berthnasol“
Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol Independent special post-16 institution teacher Atodlen 2”“
Athro neu athrawes ysgol annibynnol Independent school teacher Atodlen 2”“
Dysgu seiliedig ar waith Work based learning Atodlen 2”“
Gwasanaethau datblygu ieuenctid Youth development services Atodlen 2”“
Gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith Work based learning practitioner services Atodlen 2”“
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol Independent special post-16 institution learning support worker Atodlen 2”“
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol Independent school learning support worker Atodlen 2”“
Gweithiwr cymorth ieuenctid Youth support worker Atodlen 2”“
Gweithiwr ieuenctid Youth worker Atodlen 2”“
Sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol Independent special post-16 institution Atodlen 2”“
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith Work based learning practitioner Atodlen 2”“
Ysgol annibynnol Independent school Atodlen 2”
RHAN 7 DIWYGIADAU I REOLIADAU 2017
Diwygiadau i reoliad 4
12 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau 2017, ar ôl paragraff (1)(g) mewnosoder—“
(h) £46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes ysgol annibynnol;
(i) £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol;
(j) £46 y flwyddyn ar gyfer athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol;
(k) £46 y flwyddyn ar gyfer gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Mai 2023
YR ATODLEN
Cymwysterau Gweithwyr Ieuenctid
erthygl 9(9)
Cymwysterau gweithwyr ieuenctid: Cymru
13 

(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen hon.
(2) Yn Nhabl 1: Cymru, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Cymwysterau o ran Cymru Corff dyfarnu“
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam”“
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant”“
Diploma ôl-raddedig mewn gweithio i blant a phobl ifanc (cymhwyso cychwynnol ym maes gwaith ieuenctid) Prifysgol De Cymru”“
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant”“
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol gyda blwyddyn sylfaen Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant”“
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam”“
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol gyda diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Prifysgol Metropolitan Caerdydd”“
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant”“
Gradd ôl-raddedig mewn gweithio i blant a phobl ifanc (cymhwyso cychwynnol ym maes gwaith ieuenctid) Prifysgol De Cymru”
(3) Yn Nhabl 2: Lloegr—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Cymwysterau o ran Lloegr Corff dyfarnu“
Diploma ôl-raddedig mewn astudiaethau plentyndod, ieuenctid a theulu: llwybr gwaith ieuenctid University of Bedfordshire”“
Diploma ôl-raddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol Bradford College”“
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, arwain ac ymarfer Nottingham Trent University”“
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, iechyd ac arweinyddiaeth gymunedol De Montfort University”“
Gradd israddedig mewn astudiaethau addysg: gwaith ieuenctid a chymunedol University of Hull”“
Gradd israddedig mewn astudiaethau cymhwysol ym maes plant a gwaith ieuenctid Bishop Grosseteste University”“
Gradd israddedig mewn astudiaethau proffesiynol ym maes plentyndod ac ieuenctid (llwybr gwaith ieuenctid) Bishop Grosseteste University”“
Gradd israddedig mewn astudiaethau proffesiynol ym maes plant a gwaith ieuenctid Bishop Grosseteste University”“
Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid University of Bolton”“
Gradd israddedig mewn gwaith cymunedol ac ieuenctid York St John University”“
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedau Birmingham City University”“
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol (gyda llwybrau) University of Derby”“
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid ac ymarfer yn y gymuned University of Central Lancashire”“
Gradd israddedig mewn gwyddor gymdeithasol, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid Goldsmiths College, University of London”“
Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau plentyndod ac ieuenctid (gwaith ieuenctid) University of Sunderland”“
Gradd ôl-raddedig mewn arweinyddiaeth ieuenctid a chymunedol University of Northampton”“
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid, arwain ac ymarfer Nottingham Trent University”
(b) nod ar gyfer “Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “London Metropolitan University” yn y lle priodol;
(c) yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “University of Wolverhampton” yn y lle priodol;
(d) yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Bradford College” yn y lle priodol;
(e) yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Newman University” ac “University of Bedfordshire” yn y lleoedd priodol;
(f) yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Nottingham Trent University” ac “University of East London” yn y lleoedd priodol; a
(g) yn y cofnod ar gyfer “Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol”, yn y golofn o dan y pennawd “corff dyfarnu” mewnosoder “Liverpool Hope University” yn y lle priodol.
(4) Yn Nhabl 3: yr Alban, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Cymwysterau o ran yr Alban Corff dyfarnu“
Diploma ôl-raddedig mewn addysg gymunedol University of Dundee”“
Diploma ôl-raddedig mewn addysg oedolion, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid University of Glasgow”“
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol a datblygu cymunedol University of Glasgow”“
Gradd israddedig mewn datblygu a dysgu cymunedol University of Glasgow”“
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol (gan gynnwys llwybr seiliedig ar waith) University of Dundee”“
Gradd israddedig mewn dysgu mewn cymunedau Moray House Institute of Education University of Edinburgh”
(5) Yn Nhabl 4: Gogledd Iwerddon, yn y lle priodol mewnosoder—
Cymwysterau o ran Gogledd Iwerddon Corff dyfarnu“
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol) Moorlands College and Youth Link”
(6) Yn Nhabl 5: Cyrff dyfarnu eraill sy’n dyfarnu cymwysterau yn y Deyrnas Unedig, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Cymwysterau Corff dyfarnu“
Diploma ôl-raddedig mewn cenhadaeth a gweinidogaeth (gwaith ieuenctid a chymunedol) Institute for Children, Youth and Mission”“
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth ymarferol (gwaith ieuenctid cymunedol) Institute for Children, Youth and Mission”“
Gradd israddedig mewn plant, pobl ifanc a theuluoedd YMCA George Williams College”