
2023 Rhif 541 (Cy. 82)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2023
Gwnaed 14 Mai 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15 Mai 2023
Yn dod i rym 5 Mehefin 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mehefin 2023.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.
Diwygio Atodlen 2 i’r prif Reoliadau
2 
Mae Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (gwledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol mewn cysylltiad â hwy) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“Bermuda”,“Cayman Islands”, a“Pitcairn, Henderson, Ducie and Oeno Islands”;
(b) yn lle “St Helena” rhodder “St Helena, Ascension and Tristan da Cunha”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2023