
2023 Rhif 475 (Cy. 71)
Adeiladu, Cymru
Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023
Gwnaed 26 Ebrill 2023
Yn dod i rym 5 Mai 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 106A(2) a 146(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 106A(4)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract adeiladu i’r graddau y mae’n ymwneud â chynnal gweithrediadau adeiladu yng Nghymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Mai 2023.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “contract adeiladu” yr ystyr a roddir i “construction contract” yn adran 104 o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996;
 mae i “gweithrediadau adeiladu” yr ystyr a roddir i “construction operations” yn adran 105 o’r Ddeddf.
Caffael uniongyrchol ar gyfer prosiectau cwsmeriaid
3 

(1) Nid yw Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys i gontract adeiladu sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
(a) mae’n cynnwys datganiad sy’n nodi ei fod yn gontract o’r fath;
(b) mae un o’r partïon i’r contract yn ymgymerwr carthffosiaeth neu’n ymgymerwr dŵr;
(c) mae’r gweithrediadau adeiladu y mae’r contract yn ymwneud â hwy yn gysylltiedig â phrosiect seilwaith a ddynodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr yn achos o gaffael uniongyrchol ar gyfer prosiect cwsmeriaid yn unol ag amodau penodi’r ymgymerwr carthffosiaeth neu’r ymgymerwr dŵr;
(d) mae’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus o dan y contract yn cynnwys, o leiaf yn rhannol, daliadau rheolaidd—
(i) sy’n cael eu pennu’n rhannol drwy gyfeirio at gostau gwirioneddol y gweithrediadau adeiladu y mae’r contract yn ymwneud â hwy, a
(ii) sy’n dod yn daladwy ar ôl i un rhan o leiaf o’r gweithrediadau adeiladu hynny gael ei chwblhau ac y gellir cyflawni gwasanaeth carthffosiaeth neu ddŵr.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “ymgymerwr carthffosiaeth” ac “ymgymerwr dŵr” yw ymgymerwr carthffosiaeth neu ymgymerwr dŵr, yn ôl y digwydd, a benodir o dan adran 6(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991
Caffael uniongyrchol ar gyfer is-gontractau prosiectau cwsmeriaid
4 

(1) Mae contract adeiladu wedi ei eithrio rhag gweithrediad adran 110(1A) o’r Ddeddf os yw’n gontract yn unol ag ef y mae parti i gontract perthnasol wedi is-gontractio i berson arall rai neu bob un o’i rwymedigaethau o dan y contract hwnnw i gynnal gweithrediadau adeiladu, neu i drefnu i eraill gynnal gweithrediadau adeiladu.
(2) Ym mharagraff (1), mae contract perthnasol yn gontract sydd wedi ei eithrio rhag gweithrediad Rhan 2 o’r Ddeddf yn unol ag erthygl 3.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
26 Ebrill 2023