
2023 Rhif 47 (Cy. 6)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 18 Ionawr 2023
Yn dod i rym 20 Ionawr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ionawr 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);
 ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.
3 

(1) Mae rheoliad 9 (annibynyddion) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ar ôl paragraff (2)(f) mewnosoder—“
(g) person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971, neu y tu allan i’r rheolau hynny, neu sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, o fewn ystyr adran 2 o’r Ddeddf honno, pan fo’r person—
(i) yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022;
(ii) wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022; a
(iii) yn preswylio gyda’r ceisydd mewn cysylltiad â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin.”
(3) ym mharagraff (3) yn lle “2(a) i (c) ac (f)” rhodder “2(a) i (c), (f) ac (g)”.
4 

(1) Mae rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ar ôl is-baragraff (m)(ii), hepgorer “neu”.
(3) Ar ddiwedd is-baragraff (n), yn lle “.” rhodder “; neu”.
(4) Ar ôl is-baragraff (n) mewnosoder—“
(o) yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ac—
(i) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971; neu
(ii) sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno.”
5 

(1) Mae rheoliad 29 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r” rhodder “Mae’r”.
(3) Hepgorer paragraff (2).
6 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;
(b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;
(c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.
7 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£197.10” rhodder “£217.00”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£294.90” rhodder “£324.70”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£294.90” a “£97.80” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;
(d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£27.44” rhodder “£30.17”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”.
8 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;
(b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;
(c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.
9 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£82.10”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£90.40” ac yn lle “£65.00” rhodder “£71.55”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£82.10” rhodder “£90.40”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£128.95” rhodder “£141.95”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;
(d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£36.20” a “£51.60” rhodder “£39.85” a “£56.80” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”;
(v) yn is-baragraff (5), yn lle “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” rhodder “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” yn y drefn honno;
(e) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i) ym mharagraff 23, yn lle “£30.60” rhodder “£33.70”;
(ii) ym mharagraff 24, yn lle “£40.60” rhodder “£44.70”.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
10 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 11 i 16.
11 

(1) Mae paragraff 9 (annibynyddion) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ar ôl is-baragraff (2)(f) mewnosoder—“
(g) unrhyw berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971, neu y tu allan i’r rheolau hynny, neu sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, o fewn ystyr adran 2 o’r Ddeddf honno, pan fo’r person—
(i) yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022;
(ii) wedi gadael Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022; a
(iii) yn preswylio gyda’r ceisydd mewn cysylltiad â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin.”
(3) yn is-baragraff (3) yn lle “2(a) i (c) ac (f)” rhodder “2(a) i (c), (f) ac (g)”.
12 

(1) Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ar ôl paragraff (m)(ii), hepgorer “neu”.
(3) Ar ddiwedd paragraff (n), yn lle “.” rhodder “; neu”.
(4) Ar ôl paragraff (n) mewnosoder—“
(o) yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022, a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ac—
(i) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 neu
(ii) sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno.”
13 

(1) Mae paragraff 20 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn is-baragraff (1) yn lle “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid” rhodder “Nid”.
(3) Hepgorer is-baragraff (2).
14 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.95” rhodder “£16.40”;
(b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.30” rhodder “£5.45”;
(c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£224.00” rhodder “£236.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” rhodder “£236.00”, “£410.00” a “£10.90” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£389.00”, “£484.00” ac “£13.35” rhodder “£410.00”, “£511.00” ac “£13.70” yn y drefn honno.
15 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£197.10” rhodder “£217.00”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£294.90” rhodder “£324.70”;
(iii) yn is-baragraff (3) o’r testun Saesneg, yn lle “£294.90” a “£97.80” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (3) o’r testun Cymraeg, yn lle “£294.90” a “£97.90” rhodder “£324.70” a “£107.70” yn y drefn honno;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;
(d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£69.40” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£27.44” rhodder “£30.17”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”.
16 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£82.10”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£90.40” ac yn lle “£65.00” rhodder “£71.55”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£82.10” rhodder “£90.40”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£128.95” rhodder “£141.95”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£70.80”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£77.78”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.85” rhodder “£18.53”;
(d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£36.20” a “£51.60” rhodder “£39.85” a “£56.80” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£69.40”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£76.40” ac yn lle “£138.80” rhodder “£152.80”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£68.04” rhodder “£74.69”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£38.85” rhodder “£42.75”;
(v) yn is-baragraff (5), yn lle “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” rhodder “£30.17”, “£19.55” a “£27.90” yn y drefn honno;
(e) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i) ym mharagraff 23, yn lle “£30.60” rhodder “£33.70”;
(ii) ym mharagraff 24, yn lle “£40.60” rhodder “£44.70”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Ionawr 2023