
2023 Rhif 439 (Cy. 67)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 18 Ebrill 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 20 Ebrill 2023
Yn dod i rym 19 Mai 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 21(1) a 123(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 19 Mai 2023.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003
2 
Yn rheoliad 24K(5) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (enillion a cholledion gwerth teg cronfeydd buddsoddi cyfun), yn lle “2023” rhodder “2025”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Ebrill 2023