
2023 Rhif 420 (Cy. 63)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 11 Ebrill 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymruu 12 Ebrill 2023
Yn dod i rym 3 Mai 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Mai 2023.
Dirymu
2 
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020,
(b) Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020, ac
(c) Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005
3 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 mae i “yr awdurdod derbyn” yr un ystyr ag a roddir i “the admission authority” yn adran 88(1)(a) a (b) o Ddeddf 1998;”,“
 ystyr “gwrandawiad apêl” (“appeal hearing”) yw gwrandawiad apêl at ddibenion Pennod 1 o Ran 3 o Ddeddf 1998;”,“
 ystyr “mynediad o bell” (“remote access”) yw mynediad at wrandawiad apêl i alluogi’r rheini nad ydynt i gyd yn bresennol gyda’i gilydd yn yr un man i fynd i’r gwrandawiad neu gymryd rhan ynddo ar yr un pryd drwy ddulliau electronig, gan gynnwys drwy gyswllt awdio byw a chyswllt fideo byw;”,“
 ystyr “swyddog cyflwyno” (“presenting officer”) yw person a enwebir gan yr awdurdod priodol, i wneud sylwadau llafar i’r panel apêl mewn perthynas â’r apêl;”, a
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Mae “cyswllt awdio byw”, mewn perthynas â pherson (P) sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl, yn gyswllt ffôn byw neu’n drefniant arall sydd—
(a) yn galluogi P i glywed yr holl bersonau eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl nad ydynt yn yr un lleoliad â P, a
(b) yn galluogi’r holl bersonau eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl nad ydynt yn yr un lleoliad â P i glywed P.
(4) Mae “cyswllt fideo byw”, mewn perthynas â pherson (P) sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl, yn gyswllt teledu byw neu’n drefniant arall sydd—
(a) yn galluogi P i weld ac i glywed yr holl bersonau eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl nad ydynt yn yr un lleoliad â P, a
(b) yn galluogi’r holl bersonau eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad apêl nad ydynt yn yr un lleoliad â P i weld ac i glywed P.”
(3) Yn rheoliad 3, ar ôl y geiriau “paragraff perthnasol yn” mewnosoder “Atodlen 1”.
(4) Yn rheoliad 5, ar ôl y geiriau “yn unol ag” mewnosoder “Atodlen 2”.
(5) Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) o flaen paragraff 1 mewnosoder—“
Gwrandawiadau apêl
A1. 

(1) Caniateir i awdurdod derbyn benderfynu bod rhaid cynnal gwrandawiad apêl—
(a) yn bersonol,
(b) yn gyfan gwbl drwy ddefnyddio mynediad o bell (“apêl o bell”), cyhyd â bod yr amodau yn is-baragraff (4) wedi eu bodloni, neu
(c) yn rhannol yn bersonol ac yn rhannol drwy ddefnyddio mynediad o bell (“apêl hybrid”), cyhyd â bod yr amodau yn is-baragraff (4) wedi eu bodloni.
(2) Ni chaniateir i apêl o bell ond cael ei chynnal yn gyfan gwbl drwy gyswllt awdio—
(a) os nad oes cyswllt fideo byw ar gael am resymau sy’n ymwneud â chysylltiad rhyngrwyd, a
(b) os yw’r apelydd a’r swyddog cyflwyno yn gytûn.
(3) Os yw awdurdod derbyn yn penderfynu bod rhaid cynnal naill ai apêl o bell neu apêl hybrid, rhaid iddo wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i’r panel apêl gael mynediad at yr offer mynediad o bell angenrheidiol.
(4) Mae’r amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1)(b) ac (c) fel a ganlyn—
(a) bod y partïon yn gallu cyflwyno eu hachos yn llawn,
(b) bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig i’w alluogi i glywed a chael ei glywed, ac i weld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y gwrandawiad apêl, ac
(c) bod yr awdurdod derbyn yn ystyried bod modd gwrando ar yr apêl mewn ffordd deg a thryloyw.
(5) Caniateir i’r awdurdod derbyn benderfynu y bydd apêl yn cael ei phenderfynu ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynir os nad yw naill ai’r swyddog cyflwyno neu’r apelydd yn gallu bod yn bresennol ar ddyddiad y gwrandawiad.”,
(b) ym mharagraff 1(6), yn lle “ymddangos a gwneud” rhodder “wneud”, ac
(c) ym mharagraff 2(6), yn lle “ymddangos a gwneud” rhodder “wneud”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
11 Ebrill 2023