
2023 Rhif 394 (Cy. 61)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023
Gwnaed 30 Mawrth 2023
CYn dod i rym 28 Ebrill 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a) adran 16(1)(e) (fel y’i darllenir gydag adran 16(3A)) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
(b) adran 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 16(1) o Atodlen 5 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Yn unol ag adran 48(3B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac adran 50(6)(c) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a rhychwant
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diodydd Alcoholaidd (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Ebrill 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor
2 
Yn Atodiad 12 (cryfder alcoholaidd) i Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, ar ôl y paragraff cyntaf mewnosoder—“In relation to a beverage marketed in Wales to which the first paragraph applies, the second sentence of that paragraph is to be read as if at the end there were inserted ‘, or the figure may be followed by ‘% alc/vol’’.”
Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33
3 

(1) Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 44 (cryfder alcoholaidd gwirioneddol)—
(a) ar ôl y paragraff cyntaf mewnosoder—“In relation to a product marketed in Wales to which the first paragraph applies, that paragraph is to be read as if for ‘in percentage units or half units’ there were substituted ‘to not more than one decimal place’.”;
(b) ar ôl y trydydd paragraff (gan ystyried y paragraff a fewnosodir gan is-baragraff (a)) mewnosoder—“In relation to a product marketed in Wales to which the third paragraph applies, the first sentence of that paragraph is to be read as if at the end there were inserted ‘or the figure may be followed by ‘%alc/vol’.”
(3) Ar ôl Erthygl 50(1) (enw amrywogaeth grawnwin gwin) mewnosoder—“
1b. 
In relation to a grapevine product marketed in Wales to which paragraph 1(a)(ii) applies, the first subparagraph of point (ii) is to be read as if, in the words before the first indent, for ‘100 %’ there were substituted ‘at least 95%’.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
30 Mawrth 2023