
2023 Rhif 370 (Cy. 56) (C. 16)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 4) 2023
Gwnaed 26 Mawrth 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) a (3)(a) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 4) 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Mawrth 2023
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Mawrth 2023—
(a) adran 23(3);
(b) Atodlen 2.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2023
3 

(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023—
(a) adran 1;
(b) adran 2;
(c) adran 3;
(d) adran 5;
(e) adran 6;
(f) adran 7;
(g) adran 8;
(h) adran 9;
(i) adran 10;
(j) adran 13;
(k) adran 14;
(l) adran 15;
(m) adran 16;
(n) adran 17;
(o) adran 18;
(p) adran 20;
(q) adran 23(1) a (2);
(r) adran 27;
(s) paragraffau 6, 7 ac 8 o Atodlen 1;
(t) Atodlen 3.
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a) adran 4;
(b) adran 11.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2023