
2023 Rhif 281 (Cy. 42)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 7 Mawrth 2023
Gosodwyd gerbron  Senedd Cymru 9 Mawrth 2023
Yn dod i rym 1 Ebrill 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 113(2) a (3), a 115 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, ac adrannau 1, 11(2) a (3), a 12(1) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “corff GIG Cymru”—
(i) hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (a);
(ii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“neu
(c) Awdurdod Iechyd Arbennig;”;
(b) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd gan orchymyn a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006);
 mae i “cynrychiolydd” (“representative”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12(2);.”.
(3) Yn rheoliad 3—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—“
(2) Wrth gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, ni chaiff corff cyfrifol ddatgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, oni bai bod y person hwnnw yn gynrychiolydd i destun y data.
(3) Ym mharagraff (2), mae i “testun y data” a “data personol” yr un ystyr â “data subject” a “personal data” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno).”
(4) Yn rheoliad 12—
(a) ym mharagraff (1)(a) yn lle “person sy’n cael, neu sydd wedi cael, gwasanaethau gan gorff cyfrifol” rhodder “claf”;
(b) ym mharagraff (9), ar ôl “iawn” mewnosoder “, neu at glaf,”.
(5) Yn rheoliad 14(1)—
(a) yn is-baragraff (c), ar ôl “Cymru” mewnosoder “, oni bai bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi argymell bod y corff GIG Cymru yn cynnig ffurf o iawn o dan Ran 6 o’r Rheoliadau hyn, ac yn yr achos hwnnw, dim ond at ddiben penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli neu a all fodoli, ac i gynnig ffurf o iawn yn unol ag argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y caiff y corff GIG Cymru ymgymryd ag ymchwiliad pellach i’r pryder o dan y Rheoliadau hyn;”;
(b) yn is-baragraff (dd) hepgorer y geiriau o’r cyfeiriad cyntaf at “a” hyd at “ac”;
(c) yn is-baragraff (ff), ar ôl “sifil” mewnosoder “(gan gynnwys y cyfnod cyn gweithredu ar gyfer yr achos hwnnw)”;
(d) hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (ff);
(e) ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—“; neu
(ng) pan mai Addysg a Gwella Iechyd Cymru yw’r corff cyfrifol, pryder nad yw’n ymwneud â darparu gofal iechyd gan y corff hwnnw.”
(6) Yn rheoliad 25(2), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 29(2),”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2023