
2023 Rhif 255 (Cy. 34)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Rhagdybiaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2023
Gwnaed 3 Mawrth 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 7 Mawrth 2023
Yn dod i rym 1 Ebrill 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Rhagdybiaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Prisio hereditamentau
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament y byddai’r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai am y Rheoliadau hyn, yn cael ei effeithio o ganlyniad i—
(a) deddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth;
(b) darpariaeth nad yw o fewn is-baragraff (a) ond a wneir o dan ddeddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth, ac y rhoddir effaith iddi drwy ddeddfwriaeth y wlad neu’r diriogaeth honno;
(c) cyngor neu ganllawiau a roddir gan awdurdod cyhoeddus mewn unrhyw wlad neu diriogaeth;
(d) unrhyw beth a wneir gan berson gyda’r nod o sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw beth yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu unrhyw beth nas gwneir gan berson gyda’r nod hwnnw.
(2) At ddibenion canfod gwerth ardrethol hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar gyfer unrhyw ddiwrnod ar 1 Ebrill 2023, neu ar ôl hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf 1988, rhaid rhagdybio, ar y diwrnod hwnnw, nad oedd unrhyw newid i fater perthnasol a oedd i’w briodoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i ddeddfwriaeth, darpariaeth, cyngor, canllawiau neu sicrhau cydymffurfedd y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1)(a) i (d), wedi digwydd.
(3) Mae’r rhagdybiaeth yn rheoliad 2(2) i’w chymhwyso hefyd at y dibenion hyn pan fo unrhyw newid o’r fath i fater perthnasol wedi digwydd ar ôl y diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 ond ar y diwrnod y lluniwyd y rhestr ardrethu neu cyn hynny.
(4) Y materion perthnasol yw—
(a) materion sy’n effeithio ar fwynhad ffisegol o’r hereditament;
(b) dull neu gategori meddiannaeth yr hereditament;
(c) materion nad ydynt yn effeithio ar gyflwr ffisegol yr ardal leol y mae’r hereditament wedi ei leoli ynddi ond sydd er hynny’n bresennol yn ffisegol yno;
(d) defnyddio mangreoedd eraill sydd wedi eu lleoli yn ardal leol yr hereditament, neu feddiannu mangreoedd o’r fath.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw corff, swydd neu ddeiliad swydd sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus;
 ystyr “Deddf 1988” (“the1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 mae “deddfwriaeth (“legislation”) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth o natur ddeddfwriaethol;
 mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 64 o Ddeddf 1988;
 ystyr “rhestr ardrethu” (“rating list”) yw rhestr ardrethu annomestig leol neu ganolog o dan Ran 3 o Ddeddf 1988.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2023