
2023 Rhif 154 (Cy. 23)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2023
Gwnaed 14 Chwefror 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 16 Chwefror 2023
Yn dod i rym 1 Ebrill 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, a pharagraff 11 o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiad i Reoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992
2 
Yn rheoliad 5(8) (Dosbarth H) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992, ar y diwedd mewnosoder “where and for so long as the person resides with a sponsor under that scheme”.
Rebecca Evan
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
14 Chwefror 2023