
2023 Rhif 14 (Cy. 3)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol

 Gwnaed 11 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13 Ionawr 2023
Yn dod i rym 13 Chwefror 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2)(a) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys o ran gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 13 Chwefror 2023.
Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Adnodd Cyfyngedig (rhif y cwmni 14227941)”“
 Cymwysterau Cymru”“
 Cyngor y Gweithlu Addysg”“
 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru”.

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2023