
2023 Rhif 1354 (Cy. 244)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023
Gwnaed 11 Rhagfyr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 13 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym 1 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 3(1)(b) a (2) a 10(7) ac (8) o Atodlen 4ZA iddi, a pharagraffau 3(1)(c)(ii) a (3) a 6(6) a (7) o Atodlen 5A iddi.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfnod cymhwysol” (“qualifying period”), mewn perthynas â hereditament, yw’r cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 3(1)(a) o Atodlen 4ZA neu ym mharagraff 3(2) o Atodlen 5A i’r Ddeddf;
 mae i “diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef”, mewn perthynas â hereditament a feddiennir sydd ar restr leol, yr ystyr a roddir i “chargeable day” gan adran 43(3) o’r Ddeddf, ac mewn perthynas â hereditament ar y rhestr ganolog, mae iddo’r ystyr a roddir i “chargeable day” gan adran 54(3) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 mae i “gwaith gwella cymhwysol” (“qualifying improvement works”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;
 ystyr “hereditament newydd” (“new hereditament”) yw hereditament sy’n dod i fodolaeth oherwydd—
(a) bod eiddo a ardrethid fel hereditament sengl o’r blaen yn dod yn agored i gael ei ardrethu fesul rhan;
(b) bod eiddo a ardrethid fesul rhan o’r blaen yn dod yn agored i gael ei ardrethu fel hereditament sengl;
(c) bod hereditament neu unrhyw ran o hereditament yn dod yn rhan o hereditament gwahanol;
 ystyr “hereditament rhagflaenol perthnasol” (“relevant predecessor hereditament”), mewn perthynas â hereditament newydd, yw hereditament y cychwynnwyd y gwaith gwella cymhwysol mewn perthynas ag ef neu hereditament sy’n cynnwys tir a oedd yn rhan o’r hereditament hwnnw;
 ystyr “rhestr” (“list”) yw rhestr leol neu ganolog;
 ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
 ystyr “rhestr leol” (“local list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 41 o’r Ddeddf;
 ystyr “swyddog prisio priodol” (“appropriate valuation officer”)—
(a) mewn perthynas â hereditament y mae rheoliadau o dan adran 53(1) o’r Ddeddf (cynnwys rhestrau canolog) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, yw’r swyddog prisio canolog;
(b) mewn perthynas ag unrhyw hereditament arall, yw’r swyddog prisio sy’n llunio neu’n cynnal rhestr leol y dangosir yr hereditament ynddi;
 ystyr “tystysgrif berthnasol” (“relevant certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir o dan reoliad 5(1).
Yr amodau ar gyfer rhyddhad
3 

(1) Yr amodau a ragnodir at ddibenion paragraff 3(1)(b) o Atodlen 4ZA a pharagraff 3(1)(c)(ii) o Atodlen 5A i’r Ddeddf yw—
(a) bod tystysgrif berthnasol wedi ei dyroddi mewn perthynas â’r hereditament,
(b) nad yw’r dystysgrif wedi peidio â chael effaith nac wedi cael ei thynnu’n ôl (gweler rheoliad 7(3) ac (11)), ac
(c) mai’r un person fu’r meddiannydd mewn perthynas â’r hereditament hwnnw, ar bob diwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) At ddibenion paragraff (1)(c) o’r rheoliad hwn, pan fo gan berson gysylltiad cymhwysol â pherson arall, maent i’w trin fel yr un person.
(3) Mae person i’w drin fel pe bai ganddo gysylltiad cymhwysol â pherson arall—
(a) pan fo’r ddau berson yn gwmnïau, ac
(i) pan fo’r naill yn is-gwmni i’r llall, neu
(ii) pan fo’r ddau yn is-gwmnïau i’r un cwmni, neu
(b) pan mai un person yn unig sy’n gwmni, pan fo gan y person arall (yr “ail berson”) fuddiant yn y cwmni hwnnw o’r math a fyddai, pe bai’r ail berson yn gwmni, yn golygu ei fod yn gwmni daliannol i’r llall.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae i “cwmni” yr ystyr a roddir i “company” yn adran 1(1) o Ddeddf Cwmnïau 2006;
(b) mae i “cwmni daliannol” ac “is-gwmni” yr ystyron a roddir i “holding company” a “subsidiary” yn y drefn honno yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006;
(c) mae i “meddiannydd” yr ystyr a roddir i “occupier” yn adran 65 o’r Ddeddf;
(d) ystyr “cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cychwynnwyd y gwaith gwella cymhwysol ac sy’n gorffen â’r diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef.
Ystyr gwaith gwella cymhwysol
4 

(1) At ddibenion paragraff 3(2) o Atodlen 4ZA a pharagraff 3(3) o Atodlen 5A i’r Ddeddf, ystyr “gwaith gwella cymhwysol”, mewn perthynas â hereditament, yw unrhyw waith a gwblheir cyn 1 Ebrill 2028 sydd—
(a) yn cynyddu arwynebedd yr hereditament a ffurfir gan adeilad,
(b) fel arall yn gwella cyflwr ffisegol yr hereditament,
(c) yn ychwanegu peiriannau a pheirianwaith ardrethol i’r hereditament, neu
(d) yn gysylltiedig â’r gwaith a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (c) uchod ac sy’n lleihau gwerth ardrethol yr hereditament.
(2) Mae gwaith sy’n dod o fewn paragraff (1)(d) uchod i’w drin fel yr un set o waith gwella cymhwysol â’r gwaith hwnnw y mae’n gysylltiedig ag ef.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae cyfeiriadau at “hereditament” yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw hereditament rhagflaenol perthnasol;
(b) ystyr “peiriannau a pheirianwaith ardrethol” yw unrhyw beiriannau a pheirianwaith y tybir eu bod yn rhan o’r hereditament yn unol â Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 .
Tystysgrif berthnasol o waith gwella cymhwysol
5 

(1) Pan fo’r swyddog prisio priodol wedi ei fodloni—
(a) bod gwaith gwella cymhwysol wedi ei gwblhau mewn perthynas â hereditament, a
(b) bod yr amodau ym mharagraffau (2) a (3) o’r rheoliad hwn wedi eu bodloni,
rhaid i’r swyddog hwnnw ardystio swm y newid (os oes un) yng ngwerth ardrethol yr hereditament, y mae’n ymddangos i’r swyddog y gellir ei briodoli i waith gwella cymhwysol.
(2) Yr amod cyntaf yw bod y gwaith gwella cymhwysol wedi ei gwblhau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.
(3) Yr ail amod yw y dangoswyd yr hereditament mewn rhestr ar gyfer pob diwrnod yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cychwynnodd y gwaith gwella cymhwysol ac sy’n gorffen ar y diwrnod y cwblhawyd y gwaith hwnnw.
(4) Pan fo hereditament newydd yn cael ei greu o ganlyniad i waith gwella cymhwysol, rhaid i’r swyddog prisio priodol ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn mewn perthynas â’r hereditament newydd.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o’r rheoliad hwn, at ddibenion dyroddi tystysgrif yn unol â pharagraff (4) uchod, rhaid i’r swyddog prisio priodol dybio bod yr hereditament newydd mewn bodolaeth yn union cyn i’r gwaith gwella cymhwysol gychwyn.
(6) Wrth wneud y dybiaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) uchod, rhaid i’r swyddog prisio priodol dybio, yn union cyn i’r gwaith gwella cymhwysol gychwyn—
(a) nad oedd unrhyw ran newydd o’r hereditament newydd a grëir o ganlyniad i’r gwaith hwnnw yn bodoli, a
(b) nad oedd unrhyw welliannau i’r hereditament newydd o ganlyniad i’r gwaith hwnnw wedi digwydd.
(7) Pan fo’n ymddangos i’r swyddog prisio priodol mai dim (neu swm negyddol) yw’r newid yn swm y gwerth ardrethol y gellir ei briodoli i’r gwaith gwella cymhwysol, caniateir i dystysgrif gael ei dyroddi o dan baragraff (1) uchod.
(8) Pan fo’r swm a grybwyllir ym mharagraff (7) uchod yn swm negyddol, rhaid ardystio mai dim yw’r swm pan ddyroddir tystysgrif.
(9) Pan fo mwy nag un set o waith gwella cymhwysol wedi ei chwblhau mewn perthynas â hereditament, caniateir dangos y symiau sydd i’w hardystio o dan baragraff (1) mewn perthynas â phob set o waith gwella cymhwysol mewn un dystysgrif.
(10) Yn y rheoliad hwn—
(a) ac eithrio ym mharagraffau (4), (5) a (6), mae cyfeiriadau at “hereditament” yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw hereditament rhagflaenol perthnasol, a
(b) ystyr “rhan newydd” mewn perthynas â hereditament newydd yw unrhyw ran o’r hereditament newydd nad oedd yn rhan o hereditament rhagflaenol perthnasol cyn i’r gwaith gwella cymhwysol gychwyn, gan gynnwys unrhyw adeilad newydd neu estyniad i adeilad presennol.
Cyfrifo’r swm “G”
6 

(1) Y swm “G” a ragnodir at ddibenion paragraff 10(7) o Atodlen 4ZA a pharagraff 6(6) o Atodlen 5A i’r Ddeddf mewn perthynas â phob diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef o fewn y cyfnod cymhwysol yw’r swm a ardystiwyd gan y swyddog prisio priodol o dan reoliad 5(1).
(2) Pan fo mwy nag un set o waith gwella cymhwysol wedi ei chwblhau mewn perthynas â hereditament a phan fo paragraff (3) o’r rheoliad hwn yn gymwys, “G” yw cyfanswm y symiau a ardystiwyd mewn perthynas â phob set o waith.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef yn dod o fewn y cyfnod cymhwysol mewn perthynas â phob set o waith.
Tystysgrifau: cyffredinol
7 

(1) Rhaid i’r swyddog prisio priodol ardystio swm y newid mewn gwerth ardrethol sydd i’w ardystio o dan reoliadau 5 a 7 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r amgylchiadau sy’n galw am yr ardystiad ddod i sylw’r swyddog prisio priodol (pa un ai yn rhinwedd cais gan y talwr ardrethi neu fel arall).
(2) Pan fo’r swyddog prisio priodol yn ffurfio’r farn, pa un ai oherwydd penderfyniad gan Dribiwnlys Prisio Cymru neu fel arall, fod tystysgrif o dan y Rheoliadau hyn yn anghywir, rhaid i’r swyddog prisio priodol ardystio swm y gwerth ardrethol a ddylai, ym marn y swyddog prisio priodol, gael ei roi yn lle’r swm a ardystiwyd yn wreiddiol.
(3) Mae tystysgrif o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith ar gyfer pob diwrnod gan ddechrau â’r dyddiad y cododd yr amgylchiadau a arweiniodd at yr ardystiad (neu’r ardystiad diwygiedig) gyntaf, ond yn peidio â chael effaith pan fo paragraff (4) o’r rheoliad hwn yn gymwys (a gweler paragraffau (6) ac (8) o’r rheoliad hwn).
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r hereditament y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef yn cael ei ddangos mwyach mewn rhestr ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod cymhwysol, mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw ac unrhyw ddiwrnod dilynol y codir swm ynglŷn ag ef.
(5) Pan fo’r swyddog prisio priodol, wrth gynnal rhestr mewn perthynas â diwrnodau sy’n dod o fewn y cyfnod cymhwysol, yn ffurfio’r farn, o ganlyniad i newid perthnasol mewn amgylchiadau, fod swm y newid a grybwyllir yn rheoliad 5(1) yn wahanol i’r swm a ardystiwyd o dan y paragraff hwnnw, rhaid i’r swyddog ardystio’r swm gwahanol.
(6) Mae ardystiad o dan baragraff (5) uchod yn cael effaith o’r dyddiad y mae’r newid perthnasol mewn amgylchiadau wedi digwydd ond yn peidio â chael effaith pan fo paragraff (4) uchod yn gymwys.
(7) Pan fo’r swyddog prisio priodol, wrth lunio rhestr yn ystod y cyfnod cymhwysol, yn ffurfio’r farn bod swm y newid a grybwyllir yn rheoliad 5(1) yn wahanol i’r swm a ardystiwyd o dan y paragraff hwnnw, rhaid i’r swyddog ardystio’r swm gwahanol.
(8) Mae ardystiad o dan baragraff (7) uchod yn cael effaith o’r dyddiad y mae’r rhestr wedi ei llunio, ond yn peidio â chael effaith pan fo paragraff (4) yn gymwys.
(9) Caniateir i ardystiad o dan reoliadau 5 neu 7 neu ofyniad i bennu o dan baragraff (10)(d) isod gael ei wneud fel diwygiad i dystysgrif bresennol.
(10) Rhaid i dystysgrif o dan y Rheoliadau hyn bennu’r dyddiad—
(a) y mae’r dystysgrif (neu ddiwygiad i’r dystysgrif) yn cymryd effaith yn unol â pharagraff (3), (6) neu (8);
(b) y cwblhawyd y gwaith gwella cymhwysol;
(c) y daw’r cyfnod cymhwysol i ben neu, pan fo tystysgrif wedi ei dyroddi yn unol â rheoliad 5(9), y dyddiad hwnnw mewn perthynas â phob set o waith;
(d) y mae’r dystysgrif yn peidio â chael effaith yn unol â pharagraff (4) (pan fo’n gymwys).
(11) Pan fo’r swyddog prisio priodol wedi ei fodloni bod tystysgrif wedi ei dyroddi drwy gamgymeriad, caiff y swyddog dynnu’r dystysgrif yn ôl.
(12) Rhaid i’r swyddog prisio priodol sy’n ardystio swm y gwerth ardrethol neu sy’n pennu dyddiad yn unol â’r Rheoliadau hyn—
(a) hysbysu’r awdurdod bilio y mae’r hereditament yn ei ardal neu, i’r graddau y mae’n ymwneud ag atebolrwydd o dan adran 54 o’r Ddeddf, Weinidogion Cymru am effaith y dystysgrif;
(b) darparu copi o’r dystysgrif (neu’r dystysgrif ddiwygiedig) i’r talwr ardrethi.
(13) Caniateir i’r copi o dystysgrif a ddarperir i dalwr ardrethi o dan baragraff (12)(b) gael—
(a) ei anfon—
(i) i gyfeiriad hysbys diwethaf y talwr ardrethi,
(ii) i gyfeiriad yr hereditament,
(iii) at y talwr ardrethi drwy gyfathrebiad electronig, neu
(b) ei bostio ar borth electronig.
(14) Pan ddarperir tystysgrif yn unol â pharagraff (13)(b) rhaid i’r swyddog prisio priodol hysbysu’r talwr ardrethi drwy gyfathrebiad electronig bod copi o’r dystysgrif wedi ei bostio ar y porth electronig.
(15) Pan fo tystysgrif yn cael ei thynnu’n ôl o dan baragraff (11) rhaid i’r swyddog prisio priodol roi hysbysiad bod tystysgrif i’w thynnu’n ôl—
(a) i’r awdurdod bilio a grybwyllir ym mharagraff (12)(a) neu i Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), a
(b) i’r talwr ardrethi drwy ddarparu’r hysbysiad drwy un o’r dulliau a grybwyllir ym mharagraff (13).
(16) Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn tystysgrif a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn gael ei chadw gan y swyddog prisio priodol a’i dyroddodd am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad dyroddi.
(17) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “newid perthnasol mewn amgylchiadau” (“material change of circumstances”), mewn perthynas â hereditament, yw newid mewn unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir ym mharagraff 2(7) o Atodlen 6 i’r Ddeddf;
 ystyr “porth electronig” (“electronic portal”) yw cyfleuster ar-lein a ddarperir gan y swyddog prisio priodol i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu tystysgrifau o dan y Rheoliadau hyn.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2023