Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2023/1232 (Cy. 218) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2023 Rhif 1337 (Cy. 242)
Cyflogaeth A Hyfforddiant, Cymru
Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) (Dirymu) 2023
Gwnaed 7 Rhagfyr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym 9 Rhagfyr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 29(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) (Dirymu) 2023 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2023.
Dirymu
2 
Mae Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023 wedi ei ddirymu.
Vaughan Gething
Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2023