
2023 Rhif 1336 (Cy. 241)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed am 5.00 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 8 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(1)(d), 11(3)(a)(iii) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel”, mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(b) yn rheoliad 6(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(c) yn rheoliad 7(b), ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(d) ym mharagraff 30 o Atodlen 1, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(e) ym mharagraff 32 o Atodlen 1, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”;
(f) ar ôl paragraff (ea) o Atodlen 2 mewnosoder y paragraff canlynol—“
(eb) yn achos gwasanaeth preswyl ysgol arbennig, disgrifiad o sut y caiff y trefniadau ar gyfer darparu addysg a’r trefniadau ar gyfer darparu’r gwasanaeth preswyl eu cydgysylltu;”;
(g) ym mharagraff (k) o Atodlen 2, ar ôl “gwasanaeth llety diogel” mewnosoder “, gwasanaeth preswyl ysgol arbennig”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 5.00 p.m. ar 6 Rhagfyr 2023