
2023 Rhif 1332 (Cy. 240)
Diwygio Cyfraith Yr Ue A Ddargedwir, Cymru
Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023
Gwnaed 6 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym 1 Ionawr 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 19(1) ac 20(1)(b) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.
Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cenedlaethol perthnasol at ddibenion adran 19(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.

Yn unol â pharagraff 8(1) o Atodlen 5 i Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2024.
RHAN 2 Diwygio deddfwriaeth sylfaenol
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
2 
Yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
Mesur Gwastraff (Cymru) 2010
3 
Mae adran 17 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn is-adran (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;
(b) yn is-adran (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.
Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
4 
Yn adran 65(4)(a) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
RHAN 3 Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003
5 
Yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004
6 
Mae rheoliad 2 o Reoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;
(b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.
Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004
7 

(1) Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(4), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(e), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
8 
Mae rheoliad 2A o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (3)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;
(b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
9 

(1) Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(3)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1A, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009
10 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, yng ngholofn “Y pwnc” o’r tabl–
(a) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 4(2), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 4(3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011
11 
Mae rheoliad 4 o Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) ym mharagraff (1), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011
12 
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (4)(a)(i), yn lle “retained EU” rhodder “assimilated”;
(b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “retained direct EU” rhodder “assimilated direct”.
Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011
13 

(1) Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle ““darpariaeth cig dofednod yr UE a ddargedwir” (“retained EU poultrymeat provision”)” rhodder ““darpariaeth cig dofednod a gymathwyd” (“assimilated poultrymeat provision”)”.
(3) Yn rheoliad 9—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) ym mharagraff (2)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(4) Yn rheoliad 14(1)(a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(5) Ym mhennawd Atodlen 1, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
14 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 15—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith uniongyrchol a gymathwyd”.
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “yng nghyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith uniongyrchol a gymathwyd”;
(ii) yn is-baragraff (c), yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”;
(iii) yn is-baragraff (d), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11A(1), yn lle “fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “fân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012
15 

(1) Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 11(3)(a), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn erthygl 11A—
(a) ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013
16 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle ““Rheoliadau’r UE a ddargedwir” (“the retained EU Regulations”)” rhodder “y Rheoliadau bwyd penodedig” (“the specified food Regulations”)”.
(3) Yn rheoliad 16, yn lle “a Rheoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “a’r Rheoliadau bwyd penodedig”.
(4) Yn rheoliad 19(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Reoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “y Rheoliadau bwyd penodedig”.
Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014
17 
Ym mharagraff 3(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg Eu Lladd (Cymru) 2014, yn lle “UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016
18 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “y Rheoliad UE a ddargedwir o dan sylw” rhodder “Rheoliad 178/2002, Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno”.
(3) Yn rheoliad 15A(4)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017
19 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (8)(b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) ym mharagraff (13)(b)(ii), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(3) Yn rheoliad 6(4), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(4) Yn rheoliad 17(4)(e), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(5) Yn rheoliad 25(3)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(6) Yn rheoliad 31(3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(7) Ym mharagraff 2(c)(vi) o Atodlen 3, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
(8) Ym mharagraff 8 o Atodlen 4, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018
20 

(1) Mae Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “dosbarthu”, yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) yn lle ““darpariaeth eidion yr UE a ddargedwir” (“retained EU beef provision”)” rhodder ““darpariaeth cig eidion a gymathwyd” (“assimilated beef provision”)”;
(c) yn lle ““darpariaeth moch yr UE a ddargedwir” (“retained EU pig provision”)” rhodder ““darpariaeth moch a gymathwyd” (“assimilated pork provision”)”.
(3) Yn rheoliad 15, yn lle “â darpariaethau moch yr UE a ddargedwir” rhodder “â’r darpariaethau moch a gymathwyd”.
(4) Yn rheoliad 26—
(a) yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) ym mharagraff (a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(c) ym mharagraff (b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(5) Yn rheoliad 27—
(a) yn y pennawd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(c) ym mharagraff (2), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(d) ym mharagraff (3), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(6) Yn rheoliad 36—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(b) ym mharagraff (1)(c), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(7) Yn Atodlen 1—
(a) yn y pennawd, yn lle “Darpariaethau’r UE a Ddargedwir” rhodder “Darpariaethau a Gymathwyd”;
(b) yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(8) Yn Atodlen 2—
(a) yn y pennawd, yn lle “Darpariaethau’r UE a Ddargedwir” rhodder “Darpariaethau a Gymathwyd”;
(b) yn Rhan 1, yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”;
(c) yn Rhan 2, yn y tabl, ym mhennawd y golofn gyntaf, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019
21 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019, yn y diffiniad o “sylwedd diawdurdod”, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020
22 
Yn rheoliad 2(1) o Reolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020, yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020
23 
Ym mharagraff 11(3)(a) o Atodlen 4 i Reoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020
24 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 21(3), yn y diffiniad o “rhanddirymiad iechyd planhigion”, yn lle “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn cyfraith a gymathwyd”.
(3) Yn rheoliad 38(1)(f), yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(4) Yn rheoliad 43(2)(b), yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “yr UE a ddargedwir” rhodder “a gymathwyd”.
(5) Ym mhennawd Atodlen 3, yn lle “yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” rhodder “mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022
25 
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022, yn lle “Rheoliadau’r UE a ddargedwir” rhodder “Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009, yn y drefn honno”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2023