
2023 Rhif 1318 (Cy. 235)
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023
Gwnaed 6 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym 11 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(1)(a) a 201(1) a (3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf 1983.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Rhagfyr 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1983” yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Dyddiad cyhoeddi’r cofrestrau diwygiedig am y flwyddyn 2024
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r gofyniad o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983 i swyddogion cofrestru gyhoeddi, am y flwyddyn 2024, fersiynau diwygiedig y cofrestrau a gynhelir o dan adran 9(1)(b) o Ddeddf 1983.
(2) Y dyddiad ar gyfer diwedd y cyfnod a ddisgrifir yn adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983, sef y cyfnod y mae rhaid i’r cofrestrau diwygiedig gael eu cyhoeddi ynddo, yw 1 Chwefror 2025.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2023