
2023 Rhif 1292 (Cy. 229)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 30 Tachwedd 2023
Gosodwyd gerbron SeneddCymru 4 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraff 4(1) o Atodlen 8 iddi.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2023.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 

(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 (ffigurau poblogaeth oedolion) rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Diwygiad canlyniadol i Reoliadau 1992
3 

(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2(2), (5) a (7) o Ran 1 o Atodlen 2, yn lle “section 58(2) of the Local Government Act 1972”, rhodder “section 37(1) of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2023
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 53,824
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr 116,944
Caerphilly/Caerffili 139,897
Cardiff/Caerdydd 296,983
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin 152,438
Ceredigion 60,072
Conwy 93,732
Denbighshire/Sir Ddinbych 77,255
Flintshire/Sir y Fflint 124,432
Gwynedd 95,734
Isle of Anglesey/Ynys Môn 55,945
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful 46,407
Monmouthshire/Sir Fynwy 76,983
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot 113,997
Newport/Casnewydd 124,957
Pembrokeshire/Sir Benfro 100,828
Powys 110,340
Rhondda Cynon Taf 189,810
Swansea/Abertawe 194,813
Torfaen 73,508
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg 105,643
Wrexham/Wrecsam 107,469”