
2023 Rhif 1277 (Cy. 225)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023
Gwnaed 28 Tachwedd 2023
Yn dod i rym 30 Tachwedd 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac adran 256(1) o’r Ddeddf honno ac adrannau 59(3) a 142(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn unol ag adran 256(3), (4)(h) a (5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ac adran 142(3)(b)(i) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2023.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
 ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015.
Diwygio’r Ddeddf
2 

(1) Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (eithriadau i adran 7)—
(a) yn Rhan 3 (tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt byth yn gontractau meddiannaeth)—
(i) ym mharagraff 7(3), ar ddiwedd paragraff (k), mewnosoder—“
(l) trwydded sy’n ymwneud â llety digartrefedd dros dro sector preifat (gweler paragraff 10A).”;
(ii) ar ôl paragraff 10 mewnosoder—“
Ystyr “llety digartrefedd dros dro sector preifat”
10A. 

(1) Llety digartrefedd dros dro sector preifat yw llety—
(a) a ddarperir gan landlord preifat o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod tai lleol yn unol ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau darparu tai i’r digartref yr awdurdod hwnnw, a
(b) sydd o fewn y diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 (dehongli) o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1268 (Cy. 87)), fel y mae’n cael effaith ar 30 Tachwedd 2023, sef y dyddiad y daeth Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/1277 (W. 225)) i rym.
(2) Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod tai lleol” a “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” yr ystyron a roddir ym mharagraff 12(5).”;
(b) yn Rhan 4 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd), ym mharagraff 12(1), ar ôl “llety” mewnosoder “, ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrwydded o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 7(3)(l)”.
(3) Yn adran 243(3) (awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill), ar ôl “ac eithrio ym mharagraff” mewnosoder “10A a pharagraff”.
Diwygio’r Gorchymyn
3 
Yn erthygl 2 (dehongli) o’r Gorchymyn, yn lle’r diffiniad o “llety Gwely a Brecwast”, mewnosoder—“
 ystyr “llety Gwely a Brecwast” (“B&B accommodation”) yw llety (pa un a yw brecwast wedi ei gynnwys ai peidio) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
(a) yr amod cyntaf yw—
(i) naill ai nad yw cegin ar gael i’r trwyddedai, neu mae cegin ar gael i’r trwyddedai ond y mae’n cael ei rhannu gan bobl nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd, a
(ii) bod y cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r trwyddedai ond mae’n bosibl eu bod yn cael eu rhannu gan bobl nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd—
(aa) toiled;
(bb) cyfleusterau golchi personol;
(b) yr ail amod yw nad yw’r llety ym mherchnogaeth neu’n cael ei reoli gan landlord cymunedol (o fewn ystyr adran 9 (landlordiaid cymunedol) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)), elusen gofrestredig neu sefydliad gwirfoddol.”.
Julie Jame
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
28 Tachwedd 2023