
2023 Rhif 1229 (Cy. 217)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2023
Gwnaed 20 Tachwedd 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 21 Tachwedd 2023
Yn dod i rym 1 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
Diwygiad i Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000
2 

(1) Mae Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nosbarth 1 o’r Atodlen i Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 (dosbarthiadau o beiriannau a pheirianwaith y tybir eu bod yn rhan o’r hereditament)—
(a) yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “heblaw peiriannau a pheirianwaith a eithrir” mewnosoder “neu, mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024 a chyn 1 Ebrill 2035, beiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy a eithrir neu beiriannau a pheirianwaith mannau gwefru cerbydau trydan a eithrir”;
(b) ar ôl paragraff (ch) mewnosoder—“
(d) ystyr “peiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy a eithrir” yw peiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu, storio, newid neu drosglwyddo pŵer pan mai’r ffynonellau ynni neu’r technolegau y dibynnir arnynt yw’r canlynol, yn bennaf neu yn unig—
(i) biomas;
(ii) biodanwyddau;
(iii) bionwy;
(iv) celloedd tanwydd;
(v) ffotofoltegion;
(vi) dŵr (gan gynnwys tonnau a llanwau);
(vii) gwynt;
(viii) pŵer solar;
(ix) ffynonellau ynni neu dechnolegau geothermol;
(x) gwres o’r aer, o ddŵr neu o’r ddaear;
(dd) ystyr “peiriannau a pheirianwaith mannau gwefru cerbydau trydan a eithrir” yw peiriannau a pheirianwaith—
(i) a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer storio, newid neu drosglwyddo pŵer ar gyfer man gwefru cerbydau trydan (o fewn ystyr adran 45EA(5) o Ddeddf Lwfansau Cyfalaf 2001), a
(ii) sydd o fewn pennawd (ch) neu (d) o Dabl 1 isod.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2023