Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro gwallau yn O.S. 2022/22 (Cy. 10) a 2022/28 (Cy. 13) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offerynnau Statudol hynny.
2023 Rhif 1199 (Cy. 210)
Tai, Cymru
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Gwnaed 8 Tachwedd 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 10 Tachwedd 2023
Yn dod i rym 6 Rhagfyr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 29(1), 32(4), 236(3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Enwi a dod i rym
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2023.
Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022
2 

(1) Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (materion rhagnodedig y mae rhaid cynnwys gwybodaeth esboniadol ar eu cyfer yn y datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth)—
(a) ym mharagraff (f)—
(i) yn lle “bod rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gael ei roi i ddeiliad y contract” rhodder “o ran y datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth”;
(ii) ar ddechrau is-baragraff (i) mewnosoder “caniateir ei roi i ddeiliad y contract cyn y dyddiad meddiannu ac, os nad ydyw, rhaid ei roi i ddeiliad y contract”;
(iii) yn is-baragraff (ii), ar ôl “gontract wedi ei drosi,” mewnosoder “rhaid ei roi i ddeiliad y contract”;
(b) yn lle paragraff (g) rhodder—“
(g) os yw’r landlord yn methu â rhoi’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad meddiannu, caiff y landlord fod yn atebol i dalu digollediad i ddeiliad y contract sy’n cyfateb i ddiwrnod o rent am bob diwrnod na ddarperir y datganiad ysgrifenedig, gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu, hyd at uchafswm o ddau fis o rent (oni bai bod methiant y landlord i ddarparu’r datganiad ysgrifenedig yn fwriadol, ac os felly, caiff y llys benderfynu bod swm cynyddol yn daladwy fesul diwrnod)”.
(3) Yn rheoliad 8 (contract safonol cyfnod penodol)—
(a) ym mharagraff (b)(v)(bb)—
(i) yn y testun Saesneg, ar ôl “must give up possession” mewnosoder “,”;
(ii) yn y testun Saesneg, ar ôl “occupation contract is” mewnosoder “a”;
(b) ym mharagraff (b)(v)(cc), yn y testun Saesneg, ar ôl “to the Act,” mewnosoder “the”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022

3 

(1) Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract meddiannaeth diogel), yn Rhan 1 (contract meddiannaeth diogel – gwybodaeth esboniadol), yn yr ail baragraff, yn lle “y mae’n hwyr” rhodder “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu”.
(3) Yn Atodlen 2 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract meddiannaeth safonol cyfnodol)—
(a) yn Rhan 1 (contract meddiannaeth safonol cyfnodol – gwybodaeth esboniadol), yn yr ail baragraff, yn lle “y mae’n hwyr” rhodder “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu”;
(b) yn Rhan 3 (contract meddiannaeth safonol cyfnodol – telerau sylfaenol ac atodol)—
(i) yn nheler 47 (tor contract (F+)), ym mharagraff (1), yn y testun Saesneg, yn yr ail le y mae’n digwydd hepgorer “on that ground”;
(ii) yn nheler 60 (terfynu contract yn dilyn hysbysiad a roddir o dan deler 55 (F+))—(aa) ar ddechrau paragraff (3)(a) mewnosoder “cyn i’r contract hwn ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad,”;(bb) ym mharagraff (3)(b), yn y testun Saesneg, ar ôl “starting with” mewnosoder “the”.
(4) Yn Atodlen 3 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract meddiannaeth safonol cyfnod penodol ar gyfer cyfnod o lai na saith mlynedd)—
(a) yn Rhan 1 (contract meddiannaeth safonol cyfnod penodol – gwybodaeth esboniadol)—
(i) yn yr ail baragraff, yn lle “y mae’n hwyr” rhodder “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu”;
(ii) ar ôl paragraff (c) mewnosoder yn baragraff newydd—“
 Os ydych yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod penodol, rydych chi a’r landlord i’ch trin fel pe baech wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.”;
(b) yn Rhan 2 (contract meddiannaeth safonol cyfnod penodol – materion allweddol), yn y paragraff cyntaf, yn lle “a nodir isod” rhodder “o ____________________ (mewnosoder cyfnod y contract meddiannaeth mewn dyddiau/wythnosau/misoedd/blynyddoedd)”;
(c) yn Rhan 3 (contract safonol cyfnod penodol – telerau sylfaenol ac atodol), ar ddiwedd is-bennawd teler 39 (hysbysiadau adennill meddiant) mewnosoder “(F+)”.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022

4 
Yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022, yn yr Atodlen (ffurfiau rhagnodedig), yn ffurflen RHW17 (hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)), yn y nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer deiliaid contract—
(a) o dan y pennawd “Cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis”—
(i) ar ddiwedd “Gall contract meddiannaeth fod â chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis oherwydd” hepgorer “:”;
(ii) hepgorer paragraff a) a’r “neu” ar ei ôl;
(iii) hepgorer “b)”;
(b) o dan y pennawd “Cyfyngiadau ar roi’r hysbysiad hwn”, o dan yr is-bennawd “Pedwar/chwe mis cyntaf meddiannaeth”—
(i) hepgorer y geiriau o “Os oedd y contract meddiannaeth yn denantiaeth fyrddaliol sicr” hyd at “ddyddiad meddiannu’r contract.”;
(ii) yn lle “Yn y naill achos neu’r llall, nid” rhodder “Nid”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Tachwedd 2023