
2023 No. 1166 (Cy. 204)
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Cymru
Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio, Darpariaeth Drosiannol a Dirymu) 2023
Gwnaed 1 Tachwedd 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 3 Tachwedd 2023
Yn dod i rym 16 Rhagfyr 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 28(2) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a pharagraff 2 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym

1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio, Darpariaeth Drosiannol a Dirymu) 2023 a deuant i rym ar 16 Rhagfyr 2023.

Diwygio Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007

2 
Mae Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 3 (penodi’r Comisiynydd)—
(a) ym mharagraff (5), yn lle “reoliadau 4 a 4A” rhodder “reoliad 4”;
(b) ym mharagraff (5), yn lle “pedair blynedd” rhodder “saith mlynedd”;
(c) yn lle paragraff (6), rhodder—“
(6) Ni chaniateir i berson a benodwyd yn Gomisiynydd gael ei benodi am ail gyfnod.”
4 
Hepgorer rheoliad 4A.

Darpariaeth Drosiannol

5 
Nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn cael unrhyw effaith i’r graddau y maent yn ymwneud â phenodiad Comisiynydd a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn unol â rheoliad 1—
(a) y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 i 4 o’r Rheoliadau hyn;
(b) y dirymiad a wneir gan reoliad 6 o’r Rheoliadau hyn.

Dirymu

6 
Mae Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio) 2016 wedi eu dirymu.

Mark Drakeford


Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2023