
2023 Rhif 1125 (Cy. 196)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cymelldaliadau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023
Gwnaed 25 Hydref 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 27 Hydref 2023
Yn dod i rym 17 Tachwedd 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 123(4)(a) o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli

1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymelldaliadau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 a daw i rym ar 17 Tachwedd 2023.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;
 mae i “awdurdod lleol yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “local authority in Wales” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.
Cymelldaliadau i athrawon ysgol

2 
Nid yw cyfandaliad a wneir i athro neu athrawes ysgol o dan y Cynllun Bwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg, gan awdurdod lleol yng Nghymru neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod o’r fath, i’w drin fel tâl at ddiben adran 122(1) o Ddeddf Addysg 2002.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2023