
2023 Rhif 1113 (Cy. 193)
Addysg, Cymru
Gorchymyn y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2023
Gwnaed 23 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso

1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig

2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 7 Awst 2023) ddod i rym yw 1 Tachwedd 2023.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2023