
2023 Rhif 1106 (Cy. 191) (C. 71)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 3) 2023
Gwnaed 18 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 148(2) a (3)(a) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi

1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 3) 2023.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Tachwedd 2023 at ddibenion gwneud rheoliadau

2 
Daw adran 63 (arolygiadau ardal) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i rym ar 1Tachwedd 2023 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 63(9)(b) o’r Ddeddf honno.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2023