
2023 Rhif 1039 (Cy. 174)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2023
Gwnaed 22 Medi 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 40(2)(c) o Ddeddf Iechyd 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi

1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2023.

Y diwrnod penodedig

2 
26 Medi 2023 yw’r diwrnod a benodwyd i adran 31(2) o Ddeddf Iechyd 2009 ddod i rym.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
22nd September 2023