
2023 Rhif 102 (Cy. 19)
Cefn Gwlad, Cymru
Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023
Gwnaed 1 Chwefror 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 3 Chwefror 2023
Yn dod i rym 1 Mawrth 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(3) a 45(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2023.
Diwygio Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
2 
Yn adran 10(2)(b)(ii) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (adolygu mapiau), yn lle “ten” rhodder “fifteen”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2023