
2023 Rhif 1010 (Cy. 162)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2023
Gwnaed 15 Medi 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 19 Medi 2023
Yn dod i rym 11 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a dod i rym

1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2023 a daw i rym ar 11 Hydref 2023.
Dyddiad prisio

2 
1 Ebrill 2024 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y cyfeirir ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Dirymu

3 
Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020 wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2023